Con Passionate
| Con Passionate | |
|---|---|
Delwedd hysbysebu'r ail gyfres | |
| Ysgrifennwyd gan | Siwan Jones |
| Cyfarwyddwyd gan | Rhys Powys |
| Serennu | Shân Cothi Matthew Gravelle Ifan Huw Dafydd William Thomas |
| Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
| Nifer cyfresi | 3 |
| Nifer penodau | 26 |
| Cynhyrchiad | |
| Amser rhedeg | 40 munud |
| Cwmnïau cynhyrchu |
Teledu Apollo |
| Darllediad | |
| Sianel wreiddiol | S4C |
| Fformat llun | 16:9 |
| Darllediad gwreiddiol | 2005 – 2008 |

Cyfres ddrama deledu Gymraeg ar S4C yw Con Passionate a ysgrifennwyd gan Siwan Jones a gyfarwyddwyd gan Rhys Powys. Cynhyrchwyd y gyfres gan Teledu Apollo (a brynwyd gan gwmni Boomerang yn 2007).[1]
Mae prif blot y gyfres am oblygiadau y gantores, Davina Roberts (Shân Cothi), yn cymryd rôl arweinydd Côr Meibion Gwili. Mae ysbryd y cyn arweinydd, Walford, a fu farw cyn ddechrau'r gyfres gyntaf yn lledrithio cyfeilydd y côr, Brian, drwy gydol y gyfres gyntaf a phennod olaf yr ail gyfres.
Darlledwyd y gyfres gyntaf yn Ionawr a Chwefror 2005 ac fe'i dangoswyd am ail waith yr Hydref honno. Darlledwyd yr ail gyfres ym mis Ebrill a Mai 2006. Darlledwyd y drydedd gyfres ym mis Tachwedd a Rhagfyr 2008.
Enillodd Con Passionate y wobr am y ddrama orau yng Ngwobrau Rose d'Or yn 2007, y rhaglen Gymraeg gyntaf erioed i wneud hynny.
Cast a chymeriadau
[golygu | golygu cod]- Ian - Alun ap Brinley
- Glesni - Toni Caroll
- Davina - Shân Cothi
- Pete - Ifan Huw Dafydd
- Eurof - Matthew Gravelle
- Siân Eleri - Rebecca Harries
- Maldwyn - Morgan Hopkins
- Brian - Phylip Hughes
- Irfon - Mark Lewis Jones
- Louise - Sara McGaughey
- Llinos - Siwan Morris
- Andy - Steffan Rhodri
- Craig - Huw Rhys
- Judith - Beth Robert
- Helen - Eiry Thomas
- Glyn - William Thomas
- Eirlys - Rhianydd Wynne
- Gwenllian - Nia Ann Davies
- Lisabeth Miles
- Rhodri Evan
Dolenni Allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Con Passionate ar wefan Internet Movie Database
- Gwybodaeth ar wefan Boom Cymru[dolen farw]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Boomerang buys rival television producer (en) , WalesOnline, 28 Ebrill 2007. Cyrchwyd ar 20 Mai 2016.
