William Thomas (actor)
| William Thomas | |
|---|---|
| Ganwyd | 1947 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor teledu |
Actor o Gymro yw William Thomas (ganwyd tua 1947), adwaenid hefyd fel William Huw-Thomas, sydd wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau a chyfresi teledu.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd a magwyd Thomas yng Nghlydach, Cwm Tawe. Mae Thomas yn briod a'r actores Mair Rowlands ac mae ganddynt ddau fab. Mae'r teulu yn byw ym Mhenarth.[1]
Roedd yn aelod o Theatr Ieuenctid Sir Forgannwg cyn ennill lle yn Ysgol Ddrama y Guildhall yn Llundain. Yn 1971 aeth i weithio yn Theatr y Mermaid am naw mis, yn dirprwyo ar gyfer rhannau mewn sawl drama. Tra oedd yno, gweithiodd ar bantomeim gwyddoniaeth i blant, The Molecule Club. Yna aeth i actio mewn theatrau yn Coventry a Leicester lle weithiodd gyda pobl fel Simon Cadell a John Hurt.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ymddangosodd gyntaf ar deledu yn 1974 a mae wedi perfformio mewn nifer fawr o raglenni Cymraeg a Saesneg ers hynny. Ar deledu Seisnig mae ei rhannau mwy adnabyddus yn cynnwys dwy bennod o Doctor Who, Only Fools and Horses a Midsomer Murders.
Mae'n fwyaf adnabyddus ar deledu Cymraeg fel un o gast craidd y gyfres gomedi o'r 1980au, Torri Gwynt. Roedd ganddo brif rannau yng nghyfresi drama Con Passionate, Y Pris ac Alys.
Yn 2011 ymddangosodd fel y cymeriad Geraint Cooper yn Torchwood: Miracle Day ar ôl chwarae'r cymeriad mewn rhan fach yn y gyfres yn 2008.[3]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod](detholiad)
Theatr
[golygu | golygu cod]- Cwm Glo (1995) Cwmni Theatr Gwynedd
Teledu
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 1974 | Antony and Cleopatra | Soldier | |
| 1981 | Grange Hill | Mr. Morgan | Pennod: #4.18 |
| 1981 | The Life and Times of David Lloyd George | William George | Pennod: Don't try, Do It - Footnotes of History |
| 1983-1988 | Torri Gwynt | Cymeriadau amrywiol | |
| 1984 | Night Beat News | Greg Phillips | |
| 1984 | The Magnificent Evans | Probert | Pennod: #1.1 - #1.6 |
| 1984 | The District Nurse | Gryp | Pennod: #2.1, #2.2 |
| 1987 | Knights of God | Will | Pennod: #1.1 |
| 1988 | Ballroom | Dick | |
| 1988 | Doctor Who | Martin | pennod: Remembrance of the Daleks |
| 1989 | Only Fools and Horses | Barman | Pennod: Yuppy Love |
| 1989 | After the War | Mr. Llewellyn | Cyfres deledu fer |
| 1990 | Screen One | Cyril | Pennod: Sticky Wickets |
| 1991 | We Are Seven | Matthew Thomas | Penodau: #1.2 - #1.6 & #2.2 - #2.7 |
| 1992 | Forever Green | Michael Powell | Pennod: #3.3 |
| 1996 | Trip Trap | Dr. Barclay | |
| 1997 | Heliwr / A Mind to Kill | Pub Guvnor | Pennod: Game Plan |
| 1998 | Satellite City | Vicar | Pennod: Chronicle of a Death Foretold |
| 1999 | Rhinoceros | Constable | |
| 2000 | Longitude | Arthur Mason | |
| 2000 | Cupid & Cate | Paul | |
| 2002 | Fun at the Funeral Parlour | Ivor Thomas | |
| 2002 | A Mind to Kill | John Beckwith | Pennod: The Little House in the Forest |
| 2003 | Grass | Eric | Penodau: #1.3 - #1.8 |
| 2005 | Con Passionate | Glyn | |
| 2004–2005 | Pobol y Cwm | Eric Miller | Penodau: To Tea Ysgol, OB Cafe |
| 2005 | Marigold | Milkman | |
| 2005 | Doctor Who | Mr. Cleaver | Pennod: Boom Town |
| 2006 | Belonging | William James | Penodau: #7.3, #7.4, #7.5 |
| 2007 | Midsomer Murders | Bryn Williams | Pennod: Death and Dust |
| 2007 | Gavin & Stacey | Father Chris | Cyfres Un |
| 2007 | Y Pris | Davey Eddy | Penodau: Y Dechre, Y Fwled Gynta |
| 2008 | Belonging | Will | Pennod: #9.8 |
| 2008; 2011 | Torchwood | Geraint Cooper | Pennod: Something Borrowed, The New World, The Categories of Life |
| 2009 | Ar Y Tracs | Carwyn | Cymeriad rheolaidd |
| 2010 | Gavin & Stacey | Father Chris | Cyfres Tri |
| 2010 | Alys | William | Cymeriad Rheolaidd |
Ffilm
[golygu | golygu cod]| Blwyddyn | Teitl | Rhan |
|---|---|---|
| 1978 | Casey's Shadow | Weight Scales Jockey Room |
| 1996 | Darklands | Detective Jarvis |
| 1997 | Twin Town | Bryn Cartwright |
| 1999 | Catfish in Black Bean Sauce | Douglas |
| 1999 | Solomon and Gaenor | Idris Rees |
| 2000 | Edith's Finger | Vicar |
| 2000 | Blue Kenny | Dennis Simms |
| 2000 | The Miracle Maker | (llais) |
| 2000 | House! | Clipboard |
| 2001 | Overland | Parry Thomas |
| 2003 | Y Mabinogi | Hefeydd (llais) |
| 2006 | January 2nd | Tom |
| 2007 | The Baker | Alun |
| 2008 | Freebird | Welsh Farmer |
| 2010 | Mr. Nice | Mr Marks |
| 2010 | Ar Y Tracs | Carwyn |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Real life husband and wife play TV happy families (en) , WalesOnline, 12 Ionawr 2008. Cyrchwyd ar 13 Chwefror 2016.
- ↑ One Del of a role! (en) , Penarth Times, 5 Mai 2006.
- ↑ "Spotlight profile of William Thomas". Spotlight. Cyrchwyd 26 January 2011.