Matthew Gravelle
| Matthew Gravelle | |
|---|---|
| Ganwyd | 24 Medi 1976 Porthcawl |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor teledu |
| Priod | Mali Harries |
Actor ffilm a theledu o Gymru yw Matthew Ian Gravelle (ganwyd 24 Medi 1976).[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd Gravelle ym Mhorthcawl. Yn 2003, ymddangosodd yn y ddrama gyfres Holby City ac roedd yn actor rheolaidd yn y gyfres ddrama Belonging ar BBC Wales am ddwy gyfres. Mae ei ymddangosiadau arall ar deledu yn cynnwys Casualty, Caerdydd a Judge John Deed. Ymddangosodd yn "End of Days", diweddglo'r gyfres gyntaf o Torchwood fel doctor yn trin achosion o'r Pla Du.[2] Yn ddiweddarach fe roedd yn actor llais yn y ddrama radio "The Dead Line" oedd yn rhan o fyd Torchwood a ddarlledwyd ar BBC Radio 4 yng Ngorffennaf 2009.
O 2007 fe chwaraeodd y gangster Lyn Edwards, prif gymeriad cyfres deledu Y Pris, a elwid "Y Sopranos ger y môr".[3] Am y rôl cafodd ei enwebu am yr Actor Gorau yng ngwobrau BAFTA Cymru 2010.[4]
Serennodd Gravelle yn y ffilm Patagonia (2010) ac yng nghyfres Baker Boys ar BBC Wales fel Rob, cyd-reolwr Valley Bara a dyweddi Sarah (Eve Myles). Yn 2013, fe'i castiwyd yn y ddrama drosedd llwyddiannus Broadchurch ar ITV fel Joe Miller, gwraig cymeriad Olivia Colman.[5] Yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn fe ymddangosodd yn y ddrama dditectif Y Gwyll, sydd hefyd yn serennu ei wraig Mali Harries.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Gravelle yn briod a'r actores Mali Harries. Mae'r cwpl wedi chwarae eu priod/partner ar y sgrîn mewn sawl sioe deledu.[6]
Yn 2009, fe'i rhestrwyd yn The Western Mail fel y 24ain dyn mwya rhywiol yng Nghymru.[1]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Ffilm
| Blwyddyn | Gwaith | Rhan | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 2007 | The Mark of Cain | Chaplain | |
| 2010 | Patagonia | Rhys | |
| 2014 | Son of God | Thomas |
- Teledu
| Blwyddyn | Sioe | Rhan | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 1999–2002 | Nuts and Bolts | Will | |
| 2000 | The Scarlet Pimpernel | Joseph Mallard William Turner | 1 bennod |
| 2001 | Hearts and Bones | Meridith | 1 bennod |
| 2001–2002 | The Bench | Gareth | |
| 2003 | Holby City | Dean Shepherd | 1 bennod |
| 2003–2004 | Belonging | Andy Owen | Cyfres 4 & 5 |
| 2005–2008 | Con Passionate | Eurof | |
| 2005 | Love Soup | Paul Gilpin | 1 bennod |
| 2006 | Caerdydd | Gareth Pritchard | 2 bennod |
| 2006 | Casualty | Phil Radcliffe | 1 bennod |
| 2007 | Torchwood | Doctor | 1 bennod, "End of Days" |
| 2007 | Judge John Deed | Corporal Dewi Jones | 2 bennod, "War Crimes" Rhan 1 & 2 |
| 2007–2009 | Y Pris | Lyn Edwards | Enwebwyd - BAFTA Cymru am yr Actor gorau |
| 2008 | High Hopes | Adam Mosley | 1 bennod |
| 2009 | Collision | DS Anthony Braydon | 1 bennod |
| 2010 | All Shook Up! | Simon Fuller | |
| 2010 | Pen Talar | Steffan Watkins | 5 pennod |
| 2011 | Baker Boys | Rob | 5 pennod |
| 2011 | The Bible | Thomas | 3 pennod |
| 2011–2013 | Teulu | Huw Rees | |
| 2013 | Reit Tu Ôl i Ti | Dewi | |
| 2013 | Y Gwyll | Wyn Bratton | 2 bennod; hefyd yn serennu yn y fersiwn Saesneg Hinterland. |
| 2013–2017 | Broadchurch | Joe Miller | 3 chyfres |
| 2014 | 35 Diwrnod | Patrica | Prif ran; cyfres 1 |
| 2014 | Rosemary's Baby | Howard | 1 bennod |
| 2016–presennol | Byw Celwydd | Harri James | Prif ran |
| 2016 | New Blood | Gwynn Hughes | 1 episode |
| 2016 | Ordinary Lies | Aaron | 1 bennod, cyfres 2 |
| 2017 | Un Bore Mercher | Terry Price | Prif ran; hefyd yn serennu yn y fersiwn Saesneg Keeping Faith. |
| 2018 | Doctor Who | Llais o Kerblam | 1 bennod |
| 2018 | Morfydd | Ernest Jones | Prif ran |
| 2018 | Pluen Eira | Clive | Ffilm Nadolig |
| 2019 | The Widow | Joshua Peake | Prif ran |
- Radio
| Blwyddyn | Gwaith | Rhan | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 2009 | Torchwood: Asylum | Gwarchodwr diogelwch | BBC Radio 4 |
| 2010 | The LL Files | Ddim ar gael | BBC Radio Wales |
| 2011 | Wedding of the Year | Ddim ar gael | BBC Radio Wales |
| 2012 | The Diary of Samuel Pepys | Mr Jervas | BBC Radio 4[7] |
| 2013 | Deep Country | Narrator | BBC Radio 4 |
| 2015 | Ring | Mitchell Hooper | BBC Radio 4 |
- Gemau fideo
| Blwyddyn | Gwaith | Rhan | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 2013 | Ni No Kuni: Wrath of the White Witch | Surly | |
| 2014 | Dragon Age: Inquisition | Abelas | |
| 2015 | Jaws of Hakkon | Ameridan | |
| 2015 | Company of Heroes 2: The British Forces | Sapper | |
| 2015 | The Witcher 3: Hearts of Stone | Ewald Borsodi | |
| 2016 | Hitman | Sawl cymeriad | |
| 2018 | Dragon Quest XI | Jasper |
Rolau trosleisio
[golygu | golygu cod]- Igam Ogam
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
- ↑ Russell T Davies, Chris Chibnall, Ashley Way (1 January 2007). "End of Days". Torchwood. BBC Three.
- ↑ Marsh, Gary (27 November 2007). "TV writer Tim Price is becoming a big deal". Pontypridd Observer. Cyrchwyd 18 November 2011.
- ↑ Price, Karen (21 May 2010). "Why Bafta Cymru 2010 is a family affair". The Western Mail. Cyrchwyd 18 November 2011.
- ↑ "Broadchurch actor Matthew Gravelle on keeping one of TV's biggest secrets". The Western Mail. 17 Mawrth 2013.
- ↑ "Wedding of the Year pair look back". The Western Mail. 9 Ebrill 2011.
- ↑ "15 Minute Drama: The Diary Of Samuel Pepys". BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-25. Cyrchwyd 2015-12-16.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Matthew Gravelle ar yr Internet Movie Database
- CV ar Curtis Brown