Eiry Thomas
Eiry Thomas | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mai 1968 ![]() Caerdydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | actor ![]() |
Adnabyddus am | Con Passionate, The Indian Doctor ![]() |
Priod | Iestyn Jones ![]() |
Actores Gymreig yw Eiry Thomas (ganwyd 11 Mai 1968).
Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd ei geni yn Abertawe. Mae'n briod a'r actor a'r archeolegydd Iestyn Jones ac mae ganddynt ddau o blant, Gruffudd a Branwen.[1][2] Mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd. Astudiodd Drama yng Ngholeg Rose Bruford yn Llundain.
Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]
Ar S4C, mae wedi ymddangos yng nghyfresi drama Con Passionate, Teulu, Lan a Lawr a Byw Celwydd. Enillodd wobr Actores Gorau gan BAFTA Cymru am ei rhan yn y ffilm Gymraeg Cwcw (2008). Yn 2010 chwaraeodd un o'r prif rannau yng nghyfres uchelgeisiol Pen Talar. Yn 2019, chwaraeodd rhan Enid yng nghyfres ddrama Enid a Lucy.
Yn Saesneg, mae wedi chwarae prif rannau yn The Indian Doctor, Belonging a The Bench a rhannau gwadd yn Eastenders, Torchwood a Stella. Yn 2003, enillodd wobr Actores Gorau gan BAFTA Cymru am ei rhan yn nrama BBC Cymru The Bench. Ym mis Mai 2021, ymddangosodd yn y gyfres ddrama The Pact ar BBC One, stori gyffro wedi ei leoli mewn bragdy yng Nghymru.[3]
Mae'n un o sylfaenwyr y cwmni Theatr Pena, sy'n creu cyfleoedd i fenywod yn y theatr ac yn cynhyrchu dramau clasurol a modern.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Ps and Qs: Eiry Thomas , Wales Online, 23 Chwefror 2008.
- ↑ Eiry Thomas faced a "huge challenge" playing scriptwriter Jane Jones in S4C's award-winning drama, Cwcw. Western Mail (6 Mar 2010). Adalwyd ar 30 Ionawr 2016.
- ↑ Meet the cast of BBC One drama The Pact. Radio Times (17 Mai 2021).
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Eiry Thomas ar wefan yr Internet Movie Database
- Tudalen ar asiantaeth Emptage Hallett[dolen marw]
- Cyfrif Twitter
- Theatr Pena Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback.