Neidio i'r cynnwys

Pen Talar

Oddi ar Wicipedia
Pen Talar

Siot sgrîn o logo'r gyfres
Genre Drama
Serennu Richard Harrington
Ryland Teifi
Mali Harries
Aneirin Hughes
Eiry Thomas
Dafydd Hywel
Cyfansoddwr/wyr Cian Ciarán
Dafydd Ieuan
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg (is-deitlau Saesneg)
Nifer cyfresi 1
Nifer penodau 9 (Rhestr Penodau)
Cynhyrchiad
Amser rhedeg c.60 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Darllediad gwreiddiol 12 Medi 20109 Tachwedd 2010
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol

Cyfres ddrama uchelgeisiol ar S4C oedd Pen Talar. Roedd y gyfres yn adrodd hynt a helynt dau deulu o orllewin Cymru dros gyfnod o hanner canrif, gan ddechrau yn y 1950au ac yn parhau i'r presennol. Nid yw'r prif actor Richard Harrington yn ymddangos tan y drydedd raglen o'r gyfres am fod y rhaglenni blaenorol yn dangos hanes bywyd ei gymeriad fel plentyn. Ffilmiwyd rhannau helaeth o'r gyfres yn Cil-y-Cwm, Sir Gaerfyrddin ond gwnaed rhyw faint o ffilmio yn Aberystwyth ac yng Nghaerdydd hefyd. Cynhyrchwyd y gyfres gan gwmni Fiction Factory. Cynhyrchydd y gyfres oedd Gethin Scourfield a chyfarwyddwyd rhaglenni'r gyfres gan Gareth Bryn ac Ed Thomas.

Cast a chymeriadau

[golygu | golygu cod]

Prif gymeriadau

[golygu | golygu cod]

Penodau

[golygu | golygu cod]
# Teitl Cyfarwyddwr Awduron Darllediad cyntaf Gwylwyr [1]
1"Pennod 1 (1962/1963)"Gareth BrynSion Eirian, Ed Thomas12 Medi 2010 (2010-09-12)56,000
Mae'r rhaglen gyntaf yn ymdrin â theulu'r Lewisiaid rhwng 1962-63. Gwelwn gymeriad Defi yn ddeng mlwydd oed. Mae'n byw yn Nyffryn Tywi ger Caerfyrddin. Mae ganddo gefndir dosbarth canol ac mae wedi derbyn addysg o safon uchel. Er iddo gael ei faldodi gan ei fam (Enid Lewis), mae ganddo elfen annibynnol iawn i'w bersonoliaeth. Mae Defi hefyd yn gannwyll llygad ei dad (John Lewis) hefyd, a phan mae'n 10 oed, mae'n amlwg ei fod yn edmygu ei dad yn fawr iawn. Gwelwn yn glir fod Defi yn fachgen deallus. Mae hefyd yn gyfaill agos i Douglas Green.
2"Pennod 2 (1969)"Gareth BrynSion Eirian, Ed Thomas19 Medi 2010 (2010-09-19)67,000
Yn y rhaglen hon, gwelwn Defi yn 17 oed ac yn llawer mwy gwleidyddol. Mae’n gwrthwynebu i Arwisgiad y Tywysog Siarl ac yn cefnogi mudiadau cenedlaetholgar mwy milwriaethus megis y FWA. Mae Defi hefyd yn cwrdd â chymeriad Awen am y tro cyntaf. Maent yn mynychu’r un ysgol ac mae Defi’n ysgrifennu cerdd iddi. Rhydd y gerdd yn ei desg yn yr ysgol ond wrth iddo adael caiff ei ddal gan yr athro Maldwyn “Brwmstan” Pritchard. Trannoeth, derbynia Awen y llythyr ond caiff ei gorfodi i’w ddarllen i’r dosbarth. Am fod y cynnwys o natur rywiol, mae Brwmstan yn cosbi Defi trwy gymryd ei fathodyn Swyddog wrtho a chysylltu â'i rieni. Serch hynny, mae Defi hefyd yn gweld Brwmstan yn dal dwylo gyda disgybl yn ei ddosbarth a cheir awgrym cryf ei fod yn dyheu amdani mewn ffordd rywiol. Mae Defi hefyd yn herio Brwmstan am yr hyn a wnaeth i Lorraine. Cynhelir ffug-etholiad yn yr ysgol gyda Defi’n cynrychioli Plaid Cymru. Erbyn diwedd y bennod mae Awen a Defi’n gariadon, er gwaethaf ymdrechion mam Defi i’w cadw ar wahân.
3"Pennod 3 (1974)"Gareth BrynSion Eirian, Ed Thomas26 Medi 2010 (2010-09-26)65,000
Bellach mae Defi yn 22 oed ac wedi cyrraedd Prifysgol Aberystwyth lle mae ei ddiddordeb ym myd gwleidyddiaeth yn parhau. Fodd bynnag, gwelir ei wleidyddiaeth yn mynd yn fwyfwy eithafol a radicalaidd. Erbyn hyn hefyd, mae Doug hefyd yn 22 oed ac wedi cael swydd fel gohebydd i bapur newydd lleol. Mae'n mwynhau'r ffaith ei fod yn ennill arian, a phan mae'n mynd i hôl Defi o'r brifysgol, gyrra yno yn ei gar newydd. Er bod y ddau ohonynt yn parhau i fod yn ffrindiau, gwelir y berthynas rhyngddynt yn araf ddirywio.
4"Pennod 4 (1979)"Gareth BrynSion Eirian, Ed Thomas3 Hydref 2010 (2010-10-03)72,000
Rydym yn gweld Defi yn 27 ac yn gweithio fel darlithiwr yn yr LSE. Mae'n byw gyda Isobel, ei gariad o brifysgol. Ar ddechrau'r bennod mae'n gorffen ei berthynas gydag Isobel ac yn symud nôl i Gymru gan ddechrau ei wleidyddiaeth eithafol unwaith eto.
5"Pennod 5 (1984)"Gareth BrynSion Eirian, Ed Thomas10 Hydref 2010 (2010-10-10)59,000
Mae streic y glöwyr yn ei anterth ac mae Defi'n athro mewn ysgol uwchradd yng Nghymoedd y De. Mae Defi wedi cymryd cam yn ôl o fywyd cyhoeddus ac ymgyrchu cenedlaethol ac yn manteisio ar y cyfle i feithrin ac ysbrydoli meddyliau ifanc yn y gymuned.
6"Pennod 6 (1990)"Ed ThomasEd Thomas17 Hydref 2010 (2010-10-17)46,000
Defi wedi'n llwyr ail-gydio ym mywyd Caerdydd ar ôl drama'r wythdegau ac wedi dechrau gyrfa fel sgriptiwr. Mae ei fam yn dioddef o afiechyd alzheimers ym Mhen Talar ond does ganddo ddim amser i helpu ei chwaer sy'n edrych ar ei hôl. Yng nghanol hyn i gyd mae Awen, ei gariad o'r ysgol, yn dychwelyd i'w fywyd.
7"Pennod 7 (1997)"Ed ThomasSion Eirian, Ed Thomas24 Hydref 2010 (2010-10-24)73,000
Mae hi'n 1997 ac mae Tony Blair a'r Blaid Lafur yn cipio'r etholiad cyffredinol. Gyda Llafur mewn pŵer, mae Defi'n taflu ei hun i mewn i'r ymgyrch ddatganoli. Mae e'n byw gydag Awen a'u merch, Mari, ym Mhen Talar gyda Siân.
8"Pennod 8 (1997)"Ed ThomasEd Thomas31 Hydref 2010 (2010-10-31)43,000
Noson y refferendwm ac mae cyffro yn y wlad. Ond yn hytrach na dathlu, mae trasiedi yn taro Defi wrth i Awen farw yn dilyn damwain car. Mae Defi'n beio ei hun am y ddamwain ac mae pethau'n ddu iawn ym Mhen Talar.
9"Pennod 9 (2009/2010)"Ed ThomasEd Thomas7 Tachwedd 2010 (2010-11-07)58,000
Mae Defi'n dal i fyw ym Mhen Talar gyda Doug a Siân tra bod Mari ei ferch yn astudio celf yn y brifysgol yng Nghaerdydd. Mae'n hapus ei fyd nes i rywbeth ddigwyddodd yn 1962 ddychwelyd i darfu ar y llonyddwch unwaith yn rhagor ac mae'n rhaid iddo ymladd unwaith eto.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]