Aneirin Hughes

Oddi ar Wicipedia
Aneirin Hughes
Ganwyd8 Mai 1958 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor teledu, canwr Edit this on Wikidata

Actor a canwr Cymreig yw Aneirin Hughes (ganwyd Aneurin Hughes, 8 Mai 1958).

Addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Hughes yn Aberystwyth a'i magwyd mewn pentre bach cyfagos Penbontrhydybeddau.[1] Fe astudiodd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth o dan yr Athro Ian Parrott ac fe ganodd gyda'r soprano Hazel Holt. Tra oedd yn fyfyriwr cerdd fe arweiniodd gôr siambr y brifysgol. Cantorion Madrigalau Elisabethaidd Aberystwyth am sawl blwyddyn. Fel myfyriwr, cafodd Hughes ei brofiad actio gyntaf pan ymddangosodd mewn perfformiadau o operau Gilbert and Sullivan dan yr arweinydd David Russell Hulme. Fe aeth Hughes ymlaen i astudio yn y Royal Scottish Academy of Music and Drama.

Gyrfa actio[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd Hughes ei yrfa actio yn y 1980au gydag opera sebon Pobol y Cwm ar S4C. Fe aeth ymlaen i ymddangos yn Blood on the Dole, Casualty, Family Affairs fel DI Patrick Grenham, Spooks, Take Me gyda Robson Green a EastEnders yn Ionawr ac Ebrill 2009 fel Andy Jones, tad mabwysiadol Danielle Jones.[2]

Enillodd Hughes wobr Actor Gorau gan BAFTA Cymru am ei ymddangosiad fel  Delme yn y ffilm Gymraeg Cameleon (1997).[3][4] Fe ymddangosodd yn rheolaidd Judge John Deed fel Neil Haughton ac yn Young Dracula fel Graham Branagh. Chwaraeodd Harper yn y ffilm deledu Harper and Isles gyda Hywel Bennett[2] ac fe ymddangosodd yn y ffilm The Theory of Flight yn 1998. Yn fwy diweddar fe ymddangosodd yn y gyfres Pen Talar ar S4C ac yn Holby City fel Sir Fraser Anderson,[2] ac fe ddychwelodd i Pobol y Cwm fel cymeriad newydd, Moc Thomas, rhwng 2012 a 2013. Yn 2012, chwaraeodd ran Gwynfor Evans mewn drama ddogfennol am fywyd y gwleidydd ac ymgyrchydd, gyda'r teitl Gwynfor Evans: Y Penderfyniad?[5]

Yn 2013 ymddangosodd Hughes yn ffilm deledu S4C Y Syrcas[6] ac mae'n chwarae'r Prif Uwch-arolygydd Brian Prosser yng nghyfres ddrama Y Gwyll. Ym Mai 2014 ymddangosodd gyda Tom Jones a Katherine Jenkins mewn cynhyrchiad BBC o Under Milk Wood gan Dylan Thomas i ddathlu canmlwyddiant geni'r awdur.[7][8]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae Hughes wedi rhedeg sawl marathon i elusennau, yn cynnwys Marathon Llundain 2009.[9]

Mae Hughes yn byw yn Nhrefynwy gyda'i wraig Pip Broughton[10] a dau o blant. Mae'n aelod sylfaen o Monmouth Male Voice Choir.[11]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Dref Gymreig, S4C; Adalwyd 2015-12-13
  2. 2.0 2.1 2.2 Hughes on the Internet Movie Database
  3. "Internet Movie Database". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-24. Cyrchwyd 2015-12-23.
  4. "BAFTA Cymru 1998". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-28. Cyrchwyd 2015-12-23.
  5. "Portraying Gwynfor Evans on the small screen proved to be an 'exciting challenge' for Aneirin Hughes", WalesOnline, 3 Tachwedd 2012; adalwyd 23 Rhagfyr 2015
  6. "Y Syrcas". S4C. December 2013.
  7. "Welsh stars including Tom Jones and Katherine Jenkins unite for Dylan Thomas performance", South Wales Evening Post, 17 Ebrill 2014
  8. Under Milk Wood, Gwefan BBC, 5 Mai 2014
  9. "Aneirin Hughes's profile". Just Giving. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-03. Cyrchwyd 29 Chwefror 2012.
  10. When a murder touches your own family; TV DRAMA WILL MAKE ANEIRIN A STAR, The Mirror; 1/2000; adalwyd 23 Rhagfyr 2015
  11. Cylchlythyr Off Centre Theatre, Mai 2013 Archifwyd 2020-11-18 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 23 Rhagfyr 2015

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]