Under Milk Wood
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Dylan Thomas |
| Dyddiad cyhoeddi | 1954 |
| Dynodwyr | |
(ar gyfer yr addasiad Cymraeg, gweler Dan y Wenallt)

Drama radio enwog 'ar gyfer lleisiau' gan Dylan Thomas a gyhoeddwyd yn 1954 yw Under Milk Wood. Fe'i haddaswyd yn ddrama lwyfan yn ddiweddarach a'i gwneud yn ffilm yn 1971. Mae'r ddrama yn defnyddio barddoniaeth fel cyfrwng; mae'n disgrifio digwyddiadau un diwrnod yn unig ym mhentref dychmygol Llareggub. Mae'n fwy na phosib fod nifer o'r cymeriadau'n seiliedig ar bobl go-iawn a oedd yn byw yn Nhalacharn.



Cyfieithwyd y ddrama i'r Gymraeg gan T. James Jones dan y teitl Dan y Wenallt. Bu i Eigra Lewis Roberts addasu a chyfieithu'r ddrama i Gymraeg 'ogleddol ym 1979, a galw'r addasiad yn Dan Gysgod Bryn Llaethog. Llwyfannwyd yr addasiad hwnnw gan gwmni drama o Ddolwyddelan yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1979.
"Llareggub" yw "buggerall", o'i ddarllen am yn ôl, enghraifft o hiwmor Dylan.
Ers y 1970au, cafwyd sawl addasiad ar lwyfan, ffilm, ar deledu, ar dâp/CD ac mewn animeiddio. Yn 2015, cafwyd dwy ffilm wahanol iawn i'w gilydd, un gan Pip Broughton a'r llall gan Kevin Allen.[1]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- First Voice
- Second Voice
- First Drowned
- Captain Cat
- Second Drowned
- Woman's Voice
- Third Drowned
- Fourth Drowned
- Fifth Drowned
- Mr Mog Edwards
- Miss Myfanwy Price
- Jack Black
- Evans the Death
- Waldo's Mother
- Little Boy Waldo
- Waldo's wife
- Mr Waldo
- First Neighbour
- Second Neighbour
- Third Neighbour
- Fourth Neighbour
- Matti's Mother
- Little Girl Matti
- First Woman
- Preacher
- Second Woman
- Third Woman
- Fourth Woman
- Mrs Ogmore-Pritchard
- Mr Ogmore
- Mr Pritchard
- Gossamer Beynon
- Organ Morgan
- Utah Watkins
- Mrs Utah Watkins
- Ocky Milkman
- Atilla Rees
- A Voice
- Mrs Willy Nilly
- Lilly Smalls
- Mae Rose-Cottage
- Butcher Beynon
- Rev. Eli Jenkins
- Mr Pugh
- Mrs Organ Morgan
- Mary Ann Sailors
- Dai Bread
- Polly Garter
- Nogood Boyo
- Lord Cut-Glass
- Voice of a Guide-Book
- Mrs Beynon
- Mrs Pugh
- Mrs Dai Bread One
- Mrs Dai Bread Two
- Willy Nilly
- Mrs Cherry Owen
- Cherry Owen
- Sinbad
- Old Man
- Man's Voice
- Fisherman
- Children's voices
- Gwennie
- Billy
- Johnnie Cristo
- Dicky
- Rosie Probert
- Child
- Bessie Bighead
- A Drinker
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]| Cymeriad | Radio (1954) | Ffilm (1971) | CD / Tâp EMI (1992) | Ffilm | Ffilm Kevin Allen |
|---|---|---|---|---|---|
| Llais cyntaf | Richard Burton | Richard Burton | Anthony Hopkins | Michael Sheen | - |
| Ail lais | Richard Bebb | Ryan Davies | Jonathan Pryce | Matthew Rhys | - |
| Capten Cat | Hugh Griffith | Peter O'Toole | Freddie Jones | Tom Jones | Rhys Ifans |
| Rosie Probert | Rachel Thomas | Elizabeth Taylor | Mary Hopkin | Nia Roberts | Crisian Emanuel |
| Polly Garter | Diana Maddox | Ann Beach | Bonnie Tyler | Katherine Jenkins | Charlotte Church |
| Mr. Mog Edwards | Dafydd Harvard | Victor Spinetti | Gareth Thomas | Ioan Gruffudd | Steffan Rhodri |
| Myfanwy Price | Sybil Williams | Glynis Johns | Angharad Rees | Kimberley Nixon | Nia Roberts |
| Mrs. Ogmore-Pritchard | Dylis Davies | Siân Phillips | Nerys Hughes | Charlotte Church | Buddug Verona James |
| Mr. Ogmore | David Close-Thomas | Dillwyn Owen | Emrys James | Tom Ellis | Rhodri Meilir |
| Mr. Pritchard | Ben Williams | Richard Davies | Glyn Houston | Aneurin Hughes | Carwyn Glyn |
| Butcher Beynon | Meredith Edwards | Hubert Rees | Harry Secombe | Robert Pugh | Nicholas McGaughey |
| Gossamer Beynon | Gwenllian Owen | Angharad Rees | Carole Morgan-Hopkin | Suzanne Packer | Sara Lloyd Gregory |
| Y Parch. Eli Jenkins | Philip Burton | Aubrey Richards | Geraint Evans | Bryn Terfel | William Thomas |
| Lily Smalls | Gwenyth Petty | Meg Wynn Owen | Ruth Madoc | Eve Myles | Carys Eleri |
| Mr. Pugh | John Huw Jones | Talfryn Thomas | Bernard Lloyd | Jonathan Pryce | Boyd Clack |
| Mrs. Pugh | Mary Jones | Vivien Merchant | Siân Phillips | Siân Phillips | Sue Roderick |
| Mary Ann Sailors | Rachel Thomas | Rachel Thomas | Rachel Thomas | Sharon Morgan | Sharon Morgan |
| Sinbad Sailors | Aubrey Richards | Michael Forest | Robin Davies | Jon Tregenna | Bradley Freegard |
| Dai Bread | David Close-Thomas | Dudley Jones | David Lloyd Meredith | Owen Teale | - |
| Mrs. Dai Bread Un | Gwenyth Petty | Dorothea Phillips | Elin Jenkins | Di Botcher | Lisa Palfrey |
| Mrs. Dai Bread Dau | Rachel Thomas | Ruth Madoc | Molly Parkin | Siân Thomas | Di Botcher |
| Willy Nilly Postman | Ben Williams | Tim Wylton | Ray Smith | Tom Rhys Harries | Matthew Owen |
| Mrs Willy Nilly | Rachel Thomas | Bronwen Williams | Rhoda Lewis | - | Helen Griffin |
| Cherry Owen | John Ormond Thomas | Glynn Edwards | Philip Madoc | - | Dion Davies |
| Mrs. Cherry Owen | Lorna Davies | Bridget Turner | Liz Morgan | - | Mair Rowlands |
| Nogood Boyo | Dillwyn Owen | David Jason | Simon Bowman | Craig Roberts | Llŷr Ifans |
| Organ Morgan | John Glyn-Jones | Richard Parry | Victor Spinetti | - | Aneirin Hughes |
| Mrs Organ Morgan | Olwen Brookes | Dilys Price | Gemma Jones | - | - |
| Mae Rose Cottage | Rachel Roberts | Susan Penhaligon | Myfanwy Talog | Alexandra Roach | Saran Morgan |
| Gwenny | Norma Jones | Olwen Rees | - | - | |
| Gomer Owens | Ieuan Rhys Williams | Ieuan Rhys Williams | Rhian Kirby | - | - |
| Evans the Death | - | Mark Jones | Raymond Bower | Iwan Rheon | - |
| Mr Waldo | - | Ray Smith | Tom Jones | Steffan Rhodri | Dai Protheroe |
| Cymeriadau eraill |
|
|
|
Addasiadau
[golygu | golygu cod]Ffilm a Theledu
[golygu | golygu cod]- Under Milk Wood (ffilm 1971)
- Under Milk Wood (ffilm Kevin Allen 2015) (fersiwn Cymraeg a Saesneg)
- Under Milk Wood (ffilm Pip Broughton 2015)[1]
Tapiau a Cryno ddisgiau (CD)
[golygu | golygu cod]-
Cryno ddisg: Under Milk Wood (CD); cyhoeddwyd Ebrill 2008
-
Fersiwn y BBC: Under Milk Wood. Richard Burton yn darllen drama enwog Dylan Thomas, Dan y Wenallt, yn Saesneg.
-
Clawr CD EMI 1992
Animeiddio
[golygu | golygu cod]Addaswyd y ddrama yn gyfres wedi'i hanimeiddio ym 1992, wedi'i chomisiynu gan S4C. Cynhyrchwyd y ffilm gan Gynyrchiadau Siriol gyda chefnogaeth Onward Production a BBC Pebble Mill. Defnyddwyd y recordiad o'r ddrama radio o 1954 fel y lleisiau yn y fersiwn Saesneg.
Theatr
[golygu | golygu cod]Mae'r ddrama wedi'i haddasu ar gyfer nifer o weithiau gan gynnwys cynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru ym 1968.
Llyfrau
[golygu | golygu cod]Rhai llyfrau'n ymwneud â'r ddrama:
-
The Dylan Thomas Omnibus; Hydref 2003; casgliad amrywiol o waith y llenor cymhleth Dylan Thomas a phumed darllediad y ddrama.
-
Fersiwn Penguin; Chwefror 2000