Cian Ciarán
| Cian Ciarán | |
|---|---|
Cian Ciarán yn perfformio gyda Super Furry Animals yn y Summer Sonic Festival, Tokyo, Japan ar 10 Awst 2008. | |
| Y Cefndir | |
| Ganwyd | 16 Mehefin 1976 Bangor |
| Gwaith | Cerddor, cyfansoddwr, cynhyrchydd |
| Offeryn/nau | Allweddellau gitâr llais cefndir drymiau |
| Perff'au eraill | Super Furry Animals Acid Casuals Wwzz Aros Mae Paps Kirkland Wilding Zefur Wolves |
Cerddor Cymreig ydy Cian Ciarán (ganed 16 Mehefin 1976). Mae'n aelod o'r band Super Furry Animals (ynghyd a'i frawd Dafydd Ieuan) a Acid Casuals. Cyn hynny roedd yn aelod o'r grwpiau electronig Wwzz a Aros Mae. Cian sy'n gyfrifol am chwarae'r allweddellau a rhaglennu seiniau arbennig ar y samplyr. Mae hefyd yn canu a chanodd yng nghytgan Motherfokker, wrth gydweithio gyda Goldie Lookin' Chain.
Mae e wedi rhyddhau dau albwm fel artist solo ac un fel aelod o'r band Zefur Wolves. Yn ogystal â'r albymau hyn mae e'n rhyddhau cerddoriaeth gan amrywiaeth o artistiaid ar ei label recordiau Strangetown Records.[1][2]
Ei dad oedd y meddyg a'r ymgyrchydd iaith Carl Iwan Clowes.
Yn 2018 etholwyd ef yn Is-gadeirydd y mudiad dros annibyniaeth, Yes Cymru.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]