Yes Cymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Logo Yes Cymru
Baner Yes Cymru yn cael ei chwifio gan band 'Tŷ Gwydr' mewn gig yn Eisteddfod Caerdydd, 2018

Mudiad amhleidiol, Cymreig yw Yes Cymru a'i brif nod yw ennill annibyniaeth i Gymru er mwyn gwella’r ffordd mae’r wlad yn cael ei llywodraethu. Mae Yes Cymru yn credu mewn dinasyddiaeth gynhwysol, sy’n croesawu pob person – o ba gefndir bynnag – sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt i fod yn ddinasyddion llawn o fewn Cymru.[1]

Cynhaliodd y mudiad ei digwyddiad mawr cyntaf ym Medi 2014 yng Nghaerdydd ychydig ddyddiau cyn refferendwm annibyniaeth yr Alban dan y teitl 'Cymru'n cefnogi Ie - Ewch Amdani Alba', lle ddaeth cannoedd o bobl ynghyd.[2]

Cynhaliwyd yr ail ddigwyddiad o bwys ym mis Ebrill 2015, yn galw am Ymreolaeth i Gymru fis cyn yr etholiad cyffredinol.[3]

Yr orymdaith genedlaethol gyntaf dros Annibyniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym Mai 2019, gyda Pawb Dan Un Faner (AUOB), trefnwyd yr orymdaith genedlaethol gyntaf dros Annibyniaeth yng Nghaerdydd. Yn ogystal â'r ddau fudiad yma, cefnogwyd yr orymdaith gan Awoken Cymru, Cymdeithas yr Iaith, Cefnogwyr Peldroed dros Annibyniaeth, Llafur dros Annibyniaeth, Gellir Gwell!, ac Undod. Anerchwyd y dorf gan Adam Price (Arweinydd Plaid Cymru), Carys Eleri (Actor), Ben Gwalchmai (Llafur Dros Annibyniaeth), Siôn Jobbins (YesCymru), Sandra Clubb (Undod) ac Ali Goolyad (Bardd). Yn ôl y wasg, roedd dros 2,000 yn bresennol.

Llyfryn Annibyniaeth yn dy Boced[golygu | golygu cod y dudalen]

'Annibyniaeth yn dy Boced'

Yn 2017 cyhoeddodd y mudiad lyfryn ddwyieithog maint A6 o'r enw 'Annibyniaeth yn dy Boced' ('Independence in your pocket'). Argraffwyd y llyfr gan Gwasg y Lolfa. Rhoddwyd fersiwn pdf am ddim o'r llyfr ar wefan Yes Cymru yn ogystal â'r copi print.

Radio Yes Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Darlledwyd Radio Yes Cymru ar y we yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Darlledwyd ar wefan cymru.fm a hefyd Radio Beca. Roedd y darllediadau byw rhwng 5.00 - 7.00pm nosweithiau Mercher, Iau a Gwener 8-19 Awst. Recordiwyd y rhaglenni o swyddfa Indycube ar Sgwâr Mount Stewart. Cyflwynwyd y rhaglenni gan Siôn Jobbins a cafwyd cyfweliadau amrywiol gyda chenedlaetholwyr gan gynnwys Rhun ap Iorwerth, Adam Price, Eurfyl ap Gwilym, y llenor Catrin Dafydd (enillydd Cadair yn Eisteddfod Caerdydd), Huw Marshall, Llwyd Owen a Gareth Bonello.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]