AUOB Cymru

Oddi ar Wicipedia
AUOB Cymru
Math
sefydliad gwleidyddol
Sefydlwyd2019
Gwefanhttps://www.auob.cymru/ Edit this on Wikidata
Gorymdaith AUOB Cymru ar y cyd gyda YesCymru, ym Merthyr Tudful, 7 Medi 2019 gydag Eddie Butler yn annerch
Gorymdaith gyntaf AUOB Cymru ar y cyd gydag YesCymru yng Nghaerdydd, Mai 2019
AUOB Cymru
Enghraifft o'r canlynolsefydliad gwleidyddol Edit this on Wikidata
IdiolegAnnibyniaeth i Gymru Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2019 Edit this on Wikidata
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.auob.cymru/ Edit this on Wikidata

Mae Pawb Dan Un Faner Cymru, neu, gan amlaf dan ei thalfyriad Saesneg, AUOB Cymru (sef All Under One Banner Cymru), yn fudiad sy’n hybu annibyniaeth i Gymru. Cafodd y mudiad ei hysbrydoli gan All Under One Banner yn yr Alban gan gadw'r un enw er mwyn magu perthynas a chydweithio rhwng y gwledydd. Cynhaliwyd eu gorymdaith gyntaf ar y cyd gydag YesCymru yng Nghaerdydd ar 11 Mai 2019, gan ddenu miloedd o gyfranogwyr.[1][2][3]

Sefydlydd a phrif lefarydd y mudiad yw Llywelyn ap Gwilym.

Cenhadaeth[golygu | golygu cod]

Mae'r mudiad yn un amhleidiol a thrawsbleidiol. Nid yw'n sefyll mewn etholiadau. Yn ôl gwefan y mudiad, dywed AUOB Cymru: "Rydyn ni eisiau gweld Cymru well, dyna pam rydyn ni'n ymladd dros annibyniaeth. I bawb. Os ydych chi'n credu yn yr un pethau, ymunwch â ni yn ein gorymdeithiau pawb dan un faner. Mae dewis arall. Rydyn ni'n grŵp annibyniaeth DIY. Credwn fod gennych y pŵer i wneud gwahaniaeth. Credwn fod gan bawb ran i’w chwarae."[4] Mae'r wefan yn cynnig ffyrdd 'DIY' o drefnu dros annibyniaeth gan gynnwys: gwneud baner, trefnu gorymdaith, gwneud taflen.[5]

Gorymdeithiau[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd gorymdeithiau a gorymdeithiau cychwynnol gyda chefnogaeth ac yn aml dan faner, YesCymru yng Nghaerdydd, Caernarfon a Merthyr Tudful ym mis Mai 2019. [6] Wedi hoe oherwydd Covid-19 cynhaliwyd gorymdaith yn Wrecsam yn 2022.[7]

Bu'n rhaid canslo gorymdeithiau dilynol a drefnwyd ar gyfer 2020 oherwydd y pandemig COVID-19.[8][9]

Cynhaliwyd gorymdaith gyntaf 2022 yn Wrecsam ar 2 Gorffennaf gyda gorymdaith Caerdydd yn cael ei chynnal ar 1 Hydref.[10]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Russell, Greg (8 May 2019). "'Tide is turning' in Welsh indy movement as AUOB holds first march". The National (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Mai 2019.
  2. "Huge crowds join Welsh independence rally". BBC News. 11 May 2019. Cyrchwyd 11 Mai 2019.
  3. Busby, Mattha (11 May 2019). "Thousands march in Cardiff calling for Welsh independence". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Mai 2019.
  4. "AUOB Cymru". Gwefan AUOB Cymru. Cyrchwyd 16 Medi 2022.
  5. "Annibyniaeth DIY". Gwefan AUOB Cymru. Cyrchwyd 16 Medi 2022.
  6. "Top 5 moments for YesCymru as the movement celebrates its fifth birthday". Nation.Cymru. 23 Chwefror 2021.
  7. "5,000 yn gorymdeithio dros annibyniaeth yn Wrecsam". BBC Cymru Fyw. 4 Gorffennaf 2022.
  8. "Next independence march postponed due to coronavirus". Nation.Cymru. 13 Mawrth 2020.
  9. Jones, Elfed (26 Chwefror 2021). "Can Wales be Independent?". Herald.Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2022.
  10. Griffiths, Siriol (12 Chwefror 2022). "Two AUOBCymru marches for Welsh independence announced for 2022". The National Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-09-20. Cyrchwyd 11 Mai 2022.