Llwyd Owen

Oddi ar Wicipedia
Llwyd Owen
Geni Llwyd Owen
(1977-01-04) 4 Ionawr 1977 (47 oed)
Ysbyty'r Mynydd Bychan, Caerdydd
Galwedigaeth Awdur, cyfieithydd
Cenedligrwydd Cymro
Addysg Ysgol y Wern, Ysgol Glantaf, Caerdydd;, Prifysgol Bangor
Gwaith nodedig Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau, Ffydd Gobaith Cariad, Yr Ergyd Olaf, Mr Blaidd, Un Ddinas Dau Fyd, Y Ddyled
Gwobrau nodedig Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2007
Priod Annalisa Jane Owen
Plant Elian Sgarlad, Syfi Nona
Llofnod
[www.llwydowen.co.uk Gwefan swyddogol]

Nofelydd arobryn a dadleuol Cymreig yw Llwyd Owen (ganwyd 4 Ionawr 1977).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Cafodd ei eni yn Ysbyty'r Mynydd Bychan yng Nghaerdydd ar 4 Ionawr, 1977. Aeth i Ysgol y Wern ac yna Ysgol Gyfun Glantaf cyn mynychu Prifysgol Bangor. Mae'n parhau i fyw yng Nghaerdydd heddiw, gyda'i wraig a'i ferched. Pan nad yw'n ysgrifennu nofelau, mae'n gweithio fel cyfieithydd.

Gweithiau llenyddol[golygu | golygu cod]

Clawr Yr Ergyd Olaf

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau gan Y Lolfa ym Mawrth 2006, a'i ail, Ffydd Gobaith Cariad yn Nhachwedd 2006. Enillodd Ffydd Gobaith Cariad wobr Llyfr y Flwyddyn 2007. Cyhoeddwyd ei drydedd nofel, Yr Ergyd Olaf, yn Nhachwedd 2007 a chafodd ei chynnwys ar restr hir Llyfr y Flwyddyn 2009. Dywedodd Owen mewn erthygl ar gyfer Wales Online fod un o brif gymeriadau'r nofel hon wedi ei seilio ar ddyn o Ddinas Powys roedd wedi cyfarfod ag ef tra'n teithio o amgylch Awstralia[1]

Cafodd ei bedwaredd nofel, Mr Blaidd, ei chyhoeddi yn Hydref 2009, a'i lansio fel rhan o Ŵyl Sŵn y DJ Huw Stephens yn y Toucan Club ar 24 Hydref. Cyhoeddodd ei nofel Saesneg gyntaf ym Mai 2010, sef "Faith Hope & Love" (addasiad o'i ail nofel, "Ffydd Gobaith Cariad"). Gwerthodd y nofel hon fwy o gopiau yn yr Unol Daleithiau nag a wnaeth yng Nghymru[2]. Ei bumed nofel Gymraeg oedd "Un Ddinas Dau Fyd" a ryddhawyd ym Mawrth 2011; a'i nofel "Heulfan", yn Nhachwedd 2012. Yn Hydref 2014, cyhoeddwyd ei nofel Y Ddyled.

Yn ogystal â'i nofelau, mae Llwyd wedi cyhoeddi straeon byrion, barddoniaeth a ffotograffau ac wedi cyflwyno rhaglen ddogfen ynghylch artistiaid Caerdydd ar S4C yn 2008.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Nofelau Cymraeg[golygu | golygu cod]

Nofelau Saesneg[golygu | golygu cod]

  • Faith, Hope and Love, Mai 2010 (Alcemi)
  • The Last Hit, 2013 (Y Lolfa)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Llwyd Owen. Writer Llwyd Owen's inspiration came from a Welshman abroad , 23 Hydref 2013.
  2. (Saesneg) Ceri Shaw (17 Medi 2013). An Interview With Welsh Author Llwyd Owen. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2015.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]