Cymry

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cymro)
Neidio i: llywio, chwilio
Cymry
Cyfanswm poblogaeth
Rhwng 4.5–5 miliwn
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Cymru: 2 583 746Yr Unol Daleithiau: 1.75 miliwnCanada: 350 365Awstralia: 84 567Yr Ariannin: 72 685Seland Newydd: 9 966
Ieithoedd
Cymraeg, Saesneg
Crefydd
Cristnogaeth, arall, dim
Grwpiau ethnig perthynol
Gwyddelod, Llydawyr, Saeson, Albanwyr, Cernywiaid, Manawyr

Mae'r Cymry yn grŵp ethnig Celtaidd sy'n gysylltiedig â Chymru a'r Gymraeg. Mae cenedl y Cymry yn un o'r rhai hynaf yn Ewrop, gyda'i hanes yn mynd yn ôl i amser yr hen Geltiaid.

Enw ac ystyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Tarddiad yr enw Cymry[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwreiddyn yr enw Cymro yw'r gair Brythoneg Combrogos (lluosog: combrogi), enw'r Brythoniaid arnynt hwy eu hunain. Cyfuniad yw’r gair hwn o com (cyswllt neu berthynas) a bro (ffin neu derfyn), ac felly ystyr wreiddiol Cymro oedd cydwladwr.[1] Mae'r elfen bro yn parhau'n air am wlad neu ardal yn yr iaith fodern. Ymddengys y gair yn gyntaf mewn cerdd fawl i Cadwallon ap Cadfan[2] sydd o bosib yn dyddio o'r 7g. Diflanodd y b tua'r flwyddyn 600, ond mae'r mb wedi aros yn y ffurf Ladin am y wlad, Cambria, yn ogystal â'r enwau Cumbria a Cumberland yng ngogledd Lloegr.[3] Yr hen Gymry oedd brodorion gynt yr Hen Ogledd: o Gymbria yng ngogledd Lloegr ac o Ystrad Glud yn yr Alban. Cafodd Brythoniaid Cymru eu gwahanu oddi ar eu cydwladwyr yn Ystrad Glud gan Frwydr Caer (615/6), ac yn ddiweddarach y llwyth yng ngorllewin Ynys Prydain oedd y Cymry.

Am amser maith, Cymry oedd y sillafiad a ddynodai’r bobl a’u tiriogaeth ddaearyddol, o enau Dyfrdwy yn y gogledd hyd at Gas-gwent yn y de. Yn yr 16g mabwysiadwyd y sillafiad "Cymru" i ddynodi'r wlad gan neilltuo "Cymry" ar gyfer y trigolion.[4] Yn y 19g cadarnhaodd yr arfer orgraffyddol o wahaniaethu rhwng Cymry'r bobl a Chymru'r wlad.

Enwau tramor ar y Cymry[golygu | golygu cod y dudalen]

Y gair Germaneg walh neu wealh (estron) yw bôn yr enw Saesneg ar y Cymry. O'r un gair daw enw'r Walwniaid yng Ngwlad Belg. Defnyddid y ffurf luosog Wealas yn enw ar drigolion Brythoneg a Lladin eu hiaith ym Mhrydain gan y Saeson cynnar, a Cornwealas ar drigolion penrhyn Cernyw (y Corn). Dros amser daethpwyd y ffurfiau Wales a Welsh yn enwau'r Saesneg ar wlad a phobl Cymru.[3]

Diffinio'r Cymry[golygu | golygu cod y dudalen]

Ystyr hanesyddol y gair Cymry, a'i ystyr o hyd gan nifer o siaradwyr, yw siaradwyr Cymraeg brodorol neu gymathedig. Gelwir siaradwyr Cymraeg yr Ariannin o hyd yn Gymry’r Wladfa. Mewn modd tebyg, arferid cyfeirio at siaradwyr Saesneg, hyd yn oed os ydynt wedi treulio eu holl fywydau yng Nghymru, yn Saeson. Bellach, mae’n bosib i’r fath ddisgrifiad synio’n dramgwyddol neu’n fychanus, trwy awgrymu nad yw Cymry di-Gymraeg yn wir Gymry.

Yn yr 20g, dechreuid defnyddio "Cymry" yn gyfystyr â’r gair Saesneg Welsh i ddisgrifio trigolion Cymru, beth bynnag eu hiaith. Taenai’r arfer gan genedlaetholwyr Cymreig megis Ambrose Bebb. Erbyn yr 21g, disgrifiad o holl drigolion Cymru yw Cymry, a rennir yn Gymry Cymraeg a Chymry di-Gymraeg. Noda Geiriadur Prifysgol Cymru am "Cymro" ddiffiniad modern sy’n crybwyll iaith ond nid yn ei neilltuo: "Gŵr wedi ei eni o rieni Cymreig a'i fagu naill ai yng Nghymru neu o'r tu allan iddi, yn enw. un yn medru Cymraeg a'i hynafiaid yn Gymry; brodor o Gymru sy'n ei gyfrif ei hun yn aelod o'r genedl Gymreig heb fod o angenrheidrwydd o waedoliaeth Gymreig nac ychwaith yn medru'r iaith".[1]

Beirniada'r newid ystyr hwn yn llym gan yr academyddion Simon Brooks a Richard Glyn Roberts, sy’n ei weld "yn gyfystyr ag annilysu bodolaeth y Cymry fel grŵp ieithyddol cydlynol ystyrlon" ac yn "enghraifft arwyddocaol o natur synthetig, ormesol cenedligrwydd sifig Cymreig".[5] Dadleua Brooks a Roberts y dylsai’r iaith Gymraeg gadw ystyr draddodiadol yr enw, gan ddynodi siaradwyr Cymraeg yn unig beth bynnag eu tras neu fan geni.

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Diwylliant Cymru

Hunaniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Cymreictod

Yn Arolwg Gweithlu 2001, (y Swyddfa Ystadegau Gwladol), disgrifiodd 60% o ymatebwyr yng Nghymru eu hunain fel Cymry yn unig, a 7% fel Cymry a chenedligrwydd arall.[6]

Arwyddluniau cenedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1  Cymro. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2017.
  2. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, "CADWALLON AP CADFAN", tud. 112.
  3. 3.0 3.1 Bedwyr Lewis Jones. Enwau (Llyfrau Llafar Gwlad) (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 1991), t. 4.
  4. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, "CYMRU (yr enw)", tud. 239.
  5. Simon Brooks a Richard Glyn Roberts (gol.), Pa beth yr aethoch allan i'w achub? (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2013), tt. 24–25.
  6.  Ystadegau Gwladol – Hunaniaeth Genedlaethol Gymreig.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Cymry
yn Wiciadur.