Peniarth 28

Oddi ar Wicipedia
Peniarth 28
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif goliwiedig Edit this on Wikidata
Deunyddmemrwn, inc Edit this on Wikidata
Rhan oLlawysgrifau Peniarth Edit this on Wikidata
IaithLladin Edit this on Wikidata
Tudalennau39 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydluc. 1250 Edit this on Wikidata
Genrellenyddiaeth ffeithiol Edit this on Wikidata
LleoliadLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Prif bwncCyfraith Cymru Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llawysgrif Peniarth 28 yw un o'r llawysgrifau Cymreig hynaf. Un o lyfrau Cyfraith Hywel Dda ydyw, a'r testun yn Lladin. Mae'n cynnwys nifer o luniau lliw i ddarlunio'r testun.

Mae'r llawysgrif yn cynnwys un o'r fersiynau o'r testun Lladin o'r cyfreithiau a adnabyddir heddiw fel y testun 'Lladin A'. Mae'r fersiwn yma o gyfraith Hywel yn tarddu o Wynedd ac yn rhan o'r corff o lyfrau cyfraith Cymreig a elwir yn Fersiwn Gwynedd. Fel y rhan fwyaf o'r llyfrau cyfraith, llyfr bach ydyw Peniarth 28, cyfleus i'w gario o gwmpas. Ei brif ddiddordeb yw'r cyfres o luniau bach yn darlunio pynciau perthnasol, er enghraifft Swyddogion Llys y Brenin, anifeiliaid a phobl gyffredin.

'Yr Hebogydd': llun yn llawysgrif Peniarth 28

Mae'r arbenigwr ar lyfrau Cymreig cynnar Daniel Huws yn awgrymu i'r llyfr gael ei wneud ar gyfer gŵr eglwysig fel cyfrol gyflwyno. Pwy bynnag oedd y clerigwr hwnnw, roedd Peniarth 28 yn llyfrgell abaty yng Nghaergaint tua dechrau'r 14g. Awgryma Daniel Huws ymhellach mai hwn oedd yr union lyfr y dyfynodd John Pecham, Archesgob Caergaint ohono yn ei lythyr o gerydd a chomdemniad at Llywelyn ap Gruffudd ym mis Tachwedd, 1282, pan oedd Edward I o Loegr ar fin ymosod ar Wynedd.

Cedwir y llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, fel rhan o'r casliad a enwir yn Llawysgrifau Peniarth.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]