Neidio i'r cynnwys

Cymdeithas y Mabinogi

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas y Mabinogi
Enghraifft o:cymdeithas fyfyrwyr Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Cymdeithas y Mabinogi yw cymdeithas Cymry Prifysgol Caergrawnt. Mae'r gymdeithas yn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) a'i phrif amcanion yw i hyrwyddo a meithrin diddordeb yng Nghymru, yr Iaith Gymraeg a materion Cymreig. Nôd y gymdeithas yw i drefnu digwyddiadau cymdeithasol i’w haelodau a chymryd rhan mewn gwaith i wella mynediad i’r brifysgol i fyfyrwyr Cymreig.[1] Mae aelodaeth yn agored i unrhyw aelod o Brifysgol Caergrawnt, ac unrhyw un arall sydd â diddordeb (yn amodol ar ganiatâd y pwyllgor).

Planwyd yr hedyn ar gyfer cymdeithas Gymreig ym Mhrifysgol Caergrawnt pan ffurfiwyd Y Gomeryddion, clwb o Gymry'r brifysgol wnaeth gwrdd am y tro cyntaf yn ystafell R. Ll. Jones yng Ngholeg Corpus Christi yn 1887. Cadeirydd cyntaf Y Gomeryddion oedd Owen Prys.[1] Bu cymdeithas Gymreig yn bodoli yn y brifysgol dros y degawdau a ddilynodd, dan wahanol enwau, fel 'Y Gomeriaid', 'Cymdeithas Cymry Caergrawnt', 'Chymdeithas Gymraeg Caergrawnt', ac yn awr, 'Cambridge Welsh Society - Cymdeithas y Mabinogi'.[2][3]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 "Cymdeithas y Mabinogi - Gwybodaeth". Cymdeithas y Mabinogi. 2020-07-28. Cyrchwyd 2025-09-27.
  2. "The Cambrian News and Merionethshire Standard". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2025-09-27.
  3. "Y Goleuad". papuraunewydd.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2025-09-27.