Baltwyr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baltwyr
Baltic Tribes c 1200.svg
Map o'r llwythau Baltig, tua'r flwyddyn 1200. Dangosa'r Baltwyr Dwyreiniol mewn lliwiau brown a'r Baltwyr Gorllewinol mewn lliwiau gwyrdd.
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Latfia, Lithwania
Ieithoedd
Ieithoedd Baltig

Grŵp ethno-ieithyddol Indo-Ewropeaidd yw'r Baltwyr sy'n siarad y ieithoedd Baltig ac sy'n byw yng ngogledd-ddwyrain Ewrop ger Môr y Baltig. Y Latfiaid a'r Lithwaniaid yw'r ddwy genedl Faltig sy'n goroesi.

Ymsefydlodd pobl yn gyntaf ar arfordiroedd de-ddwyrain y Baltig yn yr oes gynhanesyddol, a gellir olrhain y Baltwyr yn ôl i tua 1800 CC. Yn ystod yr Henfyd fe'u galwyd yn Aesti. Defnyddir yr enw "Baltwyr" arnynt ers y 19eg ganrif.[1]

Yn hanesyddol roedd grwpiau eraill o Faltwyr, yn ogystal â'r Latfiaid a'r Lithwaniaid: y Jatfiaid, a gafodd eu cymhathu â'r Lithwaniaid a'r Slafiaid yn y 16g a'r 17eg ganrif; y Prwsiaid, a gafodd eu cymhathu â'r Almaenwyr yn y 18g; y Cwriaid, a gafodd eu cymhathu â'r Latfiaid yn yr 16g; y Semigaliaid; a'r Seloniaid, a ddiflanodd yn y 14g.[2] Roedd y Baltwyr yn baganiaid ac yn enwog am wrthod Cristnogaeth am amser hir, a ni throdd y Lithwaniaid yn Gristnogion tan 1386.[1]

Er bod Estonia yn un o'r gwledydd Baltig (ynghyd â Latfia a Lithwania), nid yw'r Estoniaid yn Faltwyr. Yn hytrach, Balto-Ffiniaid ydynt.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Mackenzie, John M. Peoples, Nations and Cultures: An A-Z of the Peoples of the World, Past and Present (Weidenfeld & Nicolson, Llundain, 2005), t. 291.
  2. (Saesneg) Balt (people). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Awst 2014.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Cwriaid, Jatfiaid o'r Saesneg "Curonians/Cours/Kurs, Yotvingians/Jatvians/Jatvingians". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.