Dôn
Dôn | |
---|---|
Mam Hynafol Llys Dôn[1] | |
Prif le cwlt | Cymru |
Rhyw | Benyw |
Achyddiaeth | |
Rhieni | Mathonwy |
Siblingiaid | Math fab Mathonwy a Goewin |
Consort | Beli Mawr[1] |
Epil | Penarddun, Arianrhod, Amaethon, Gofannon, Gwydion, Gilfaethwy, a Nudd, |
Cywerthyddion | |
Gwyddelig | Danu |
Cymeriad a duwies hynafiad yn llenyddiaeth a chwedlau Cymreig yw Dôn. Mewn sawl ffynhonnell, hi yw mam llwyth o blant a elwir yn "Blant Dôn", gan gynnwys Gwydion, Arianrhod, Gilfaethwy, ac eraill. Er hynny, roedd hynafiaethwyr y cyfnod modern cynnar yn tybio bod Dôn yn gymeriad gwrywaidd yn hytrach nag un benywaidd.[2] Mae hi hefyd yn chwaer i Fath fab Mathonwy yn y traddodiad Cymreig. Ceir cyfeiriadau anuniongyrchol ati ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi ac weithiau yng ngwaith y beirdd Cymraeg canoloesol. Cyfeirir ati weithiau fel merch Beli, a restrir yn yr achau fel un o gyndeidiau pwysicaf Gwŷr y Gogledd.
Llys Dôn
[golygu | golygu cod]Mathonwy | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dôn | Math fab Mathonwy | Goewin | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwydion | Gilfaethwy | Arianrhod | Gofannon | Amaethon | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dylan ail Don | Lleu Llaw Gyffes | Blodeuwedd | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymhellach, ceir rhestr estynedig o blant ym Monedd yr Arwyr, gan gynnwys Aidden, Cynan, Digant, Elawg, Elestron, Eunydd, Hedd, Hunawg, ac Idwal.[3]
Llenyddiaeth arall
[golygu | golygu cod]Yn y chwedl gynnar Culhwch ac Olwen, enwir Dôn yn fam i Amaethon yn ogystal.
Mewn seryddiaeth
[golygu | golygu cod]Enw Cymraeg traddodiadol y cytser Cassiopeia yw Llys Dôn. Mae gan ddau o blant Dôn hefyd gysylltiadau seryddol, sef Gwydion fab Dôn ac Arianrhod, lle mai Caer Gwydion yw'r enw Cymraeg traddodiadol ar y Llwybr Llaethog, a Chaer Arianrhod yw cytser y Corona Borealis.[4]
Geirdarddiad a tharddiad Proto-Indo-Ewropeaidd
[golygu | golygu cod]Yn ôl un ddamcaniaeth, ieithyddol, uniaethir Dôn â'r dduwies Geltaidd Danu/Anu yn y traddodiad Gwyddelig. Yna mae hi'n fam i'r Tuatha Dé Danann chwedlonol. Mae rhai ysgolheigion yn dadlau hefyd dros gysylltu Dôn/Danu ag enw afon Donaw (Danube, Lladin: Danuvius). Mae'n bosibl yn ogystal fod yr afonydd niferus a enwir yn afon Don, o Rwsia i Brydain, i'w cysylltu â'r dduwies hefyd. Tybir fod afon Dyfrdwy yn enghraifft arall (un o'r hen ffurfiau ar yr enw yw Dyfrddonwy).
Yn ôl damcaniaeth arall, mae gan Dôn wreiddiau etymolegol gwbl wahanol i'r Danu Gwyddelig; tra bod y cyntaf efallai yn dduwies ddŵr (cymharer Afon Donaw a Danu yn y Veda), mae Dôn yn fwy tebygol o ddod o "ghdhonos," sy'n golygu "y ddaear." Yn yr ystyr hwn, gellir ei gweld fel y fersiwn Gymraeg o "Dheghom" ("*Dʰéǵʰōm") o fytholeg Proto-Indo-Ewropeaidd, y Dduwies Ddaear gyntefig y mae pob duw arall yn tarddu ohoni. Awgrymwyd, o ganlyniad, y byddai Plant Dôn yn gytras â'r Titaniaid Groegaidd.[5]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- d'Este, Sorita; Rankine, David (2007). The Isles of the Many Gods: An A-Z of the Pagan Gods & Goddesses of Ancient Britain worshipped during the First Millennium through to the Middle Ages. Avalonia.
- W.J. Gruffydd, Math fab Mathonwy (Caerdydd, 1928)
- Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Stuttgart 1994: cyfieithiad Saesneg, Boydell Press, 1997)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 d'Este, Sorita; Rankine, David (2007). The Isles of the Many Gods: An A-Z of the Pagan Gods & Goddesses of Ancient Britain worshipped during the First Millennium through to the Middle Ages (yn English). Avalonia. t. 125.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Bartrum, Peter (1993). A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 (PDF). Cardiff: The National Library of Wales. tt. 230–231. ISBN 978-0907158738. Cyrchwyd 2016-11-26.
- ↑ d'Este, Sorita; Rankine, David (2007). The Isles of the Many Gods: An A-Z of the Pagan Gods & Goddesses of Ancient Britain worshipped during the First Millennium through to the Middle Ages (yn English). Avalonia. t. 126.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Squire, Charles (2003). Celtic Myths and Legends. United Kingdom: Parragon. tt. 252–253. ISBN 9781842040157.
- ↑ Koch, John T. (1989). "Some Suggestions and Etymologies Reflecting upon the Mythology of the Four Branches". Proceedings of the Harvard Celtic Colloquium 9: 1-10.