Cassiopeia (cytser)
![]() | |
Enghraifft o: | cytser ![]() |
---|---|
![]() |
Cytser a welir yn awyr y nos yn hemisffer wybrennol y gogledd yw Cassiopeia (Cymraeg: Llys Dôn). Dyma un o'r 48 cytserau a restrwyd gan y seryddwr Ptolemi yn yr ail ganrif yn ei Almagest.[1] Mae'n un o'r 88 cytser dynodedig a ddiffiniwyd gan yr Undeb Seryddol Rhyngwladol ym 1922.
Mae'n gorwedd yng nghanol y Llwybr Llaethog bron, yn agos i Seren y Gogledd. Ei gymdogion yw Cepheus, Perseus ac Andromeda. Mae'n un o'r cytserau mwyaf disglair a hawdd i'w adnabod. Mae'r pum seren ddisgleiriaf yn ffurfio siâp 'W' yn yr awyr. Mae'n cynnwys gweddillion dau supernova diweddar, Seren Tycho a Cassiopeia A, sy'n ffynhonnell signalau radio gref.
Fe'i enwir ar ôl cymeriad ym mytholeg Roeg, Cassiopeia, oedd yn wraig i Cepheus brenin Ethiopia ac yn fam i Andromeda. Trawsnewidiwyd y cymeriadau hyn i gyd yn gytserau – yn ogystal â Cassiopeia ei hun, ceir Cepheus ac Andromeda.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cassiopeia", Ian Ridpath's Star Tales; adalwyd 3 Ebrill 2025
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Cassiopeia", Awyr Dywyll Cymru