Gofannon fab Dôn
Gofannon | |
---|---|
Prif le cwlt | Cymru |
Arf | Morthwyl |
Brwydrau | Cad Goddeu |
Symbol | Efallai'r einion a'r morthwyl |
Rhyw | Gwryw |
Achyddiaeth | |
Rhieni | Dôn (mam) a Beli Mawr[1] (thad) |
Siblingiaid | Penarddun, Arianrhod, Amaethon, Gwydion, Gilfaethwy, a Nudd[1] |
Cywerthyddion | |
Galaidd | Gobannus/Gobannos |
Gwyddelig | Goibniu, Goibhniu |
Cymeriad mytholegol Cymreig yw Gofannon, neu Gofannon fab Dôn. Mae ei enw yn gytras â'r gair 'gof'. Credir ei fod yn ffurf ar dduw Celtaidd sy'n gysylltiedig â gwaith y gof. Mae'n un o blant y dduwies Geltaidd Dôn.
Gofannon yn y traddodiad Cymreig
[golygu | golygu cod]Yn y chwedl Cymraeg Canol gynnar Culhwch ac Olwen mae'r cawr Ysbaddaden Bencawr yn rhoi i'r arwr Culhwch y dasg o aradu cae sydd newydd ei glirio o goed. Ar yr un pryd mae'n datgelu iddo na allai wneud hynny heb gymorth parod Gofannon: 'Gofannon fab Don i ddyfod i ben y tir i wared yr haearn; ni wna ef waith o'i fodd namyn i frenin teithiog.'
Yn Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, 'Math fab Mathonwy', mae Gofannon yn frawd i Arianrhod. Mae'n lladd Dylan Eil Don, mab Arianrhod, trwy ddamwain.
Yn y gerdd gynnar 'Ymddiddan Myrddin a Thaliesin', cysylltir Gofannon â brwydr Arfderydd yn yr Hen Ogledd. Dywedir iddo ymladd yn y frwydr honno â saith gwaywffon.
Ceir cyfeiriad at gaer arallfydol o'r enw 'Caer Ofannon' mewn cerdd a bridolir i'r Taliesin chwedlonol yn Llyfr Taliesin.
Crybwylla Rankine a d'Este (2007), wrth archwilio Prif Gyfarch Taliesin o Lyfr Coch Hergest, hefyd i Gofannon fod yn ddewin (neu swynwr),[1] gyda'r Prif Gyfarch yn datgan:
Cymraeg Canol: |
Cymraeg modern: |
Credir mai o'r gair Gofannon y daw'r elfen gav yn Abergavenny (Y Fenni) a ddaeth yn ei dro o'r hen air coll Brythoneg; Gobannium oedd gair y Rhufeiniaid am y dref. Ceir tystiolaeth ei bod yn ganolfan haearn ymhell cyn hynny.
Goibniu
[golygu | golygu cod]Y ffigwr cyfatebol yn nhraddodiad Iwerddon yw Goibniu. Mae Goibniu yn of i'r Tuatha Dé Danann (yn llythrennol: 'Plant Dôn') yn y chwedlau Gwyddeleg. Yn chwedl Brwydr Mag Tuired (Cath Maige Tuired) mae'n creu pennau gwaywffon a chleddyfau i'r arwyr.
Ymddengys fod Goibniu a Gofannon yn eu tro yn cyfateb i'r duw Gobannus yng Ngâl.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- A. O. H. Jarman (gol.), Ymddiddan Myrddin a Thaliesin (Caerdydd, 1952)
- Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Gwasg Boydell, 1998)
- d'Este, Sorita; Rankine, David (2007). The Isles of the Many Gods: An A-Z of the Pagan Gods & Goddesses of Ancient Britain worshipped during the First Millennium through to the Middle Ages. Avalonia.
- Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1951)