Thomas Powel
Gwedd
| Thomas Powel | |
|---|---|
| Ganwyd | 1845 Llanwrtyd |
| Bu farw | 16 Mai 1922 Aberystwyth |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | academydd |
| Cyflogwr | |
- Erthygl am yr ysgolhaig yw hon. Am y clerigwr a llenor o'r 17eg ganrif, gweler Thomas Powell.
Ysgolhaig Celtaidd Cymreig oedd Thomas Powel (1845–1922). Ef oedd yr athro prifysgol cyntaf i gael Cadair Geltaidd yng Nghymru.
Ganed Powel yn Llanwrtyd, Brycheiniog (de Powys) yn 1845. Graddiodd o Goleg yr Iesu, Rhydychen gydag Anhrydedd yn y Clasuron yn 1872 ac ymunodd â staff Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd pan sefydlwyd y coleg hwnnw yn 1883. Bu'n athro cadair Geltaidd yno o 1884 hyd ei ymddeoliad yn 1914.
Gwasanaethodd tymor fel golygydd Y Cymmrodor, cylchgrawn Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, o 1880 hyd 1886. Cyhoeddodd nifer o erthyglau a sawl golygiad o destunau Cymraeg Canol, yn cynnwys Ystorya de Carolo Magno.
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]Golygydd:
- Ystorya de Carolo Magno (1883)
- The Gododdin of Aneirin Gwawdrydd gan Thomas Stephens (1888)
- Psalmau Dafydd William Morgan, 1588 (1897)