Y Cymmrodor
Gwedd
| Enghraifft o: | cyfnodolyn, cyfnodolyn academaidd |
|---|---|
| Cyhoeddwr | Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion |
| Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1877 |
| Dechrau/Sefydlu | 1821 |
| Lleoliad cyhoeddi | Llundain |
| Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
| Dynodwyr | |
Cylchgrawn blynyddol yr Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, rhwng 1821 a 1951, oedd Y Cymmrodor. Ynddo ceir traethodau, erthyglau a darlithoedd ar hanes, llenyddiaeth a Chymru.
Cyhoeddwyd y cylchgrawn cyntaf ym 1821 (heb rif), ac wedyn pedair cyfrol rhwng 1822 (Rhan I) a 1843 (Rhan IV). Daeth y rhediad hwn i ben ym 1843.
Ailddechreuwyd Y Cymmrodor yn 1877 (Cyfrol I), a pharhaodd tan 1939 (Cyfrol XLVI). O hyn ymlaen daeth yn fwy o adnodd llawn cyfeiriadau a deunydd ymchwil tan iddo ddod i ben ym 1951 (Cyfrol L) a chyhoeddwyd y gwaith wedi hynny yn Nhrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.
Yn 2016 digideiddiwyd y casgliad gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru o dan y cynllun Cylchgronau Cymru Ar-lein
Golygyddion
[golygu | golygu cod]- Robert Jones, cyfrolau 1–2 (1877–80)
- Thomas Powel, cyfrolau 3–7 (1881–86)
- Egerton Phillimore, cyfrolau 8–11 (1887–91)
- Evan Vincent Evans, cyfrolau 13–22 (1900–1908)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Cylchgronau Cymru Ar-lein http://cylchgronaucymru.llgc.org.uk
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru https://www.llgc.org.uk/cy/?no_cache=1
- Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion http://www.cymmrodorion.org/cy/