Demograffeg Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yn ôl Cyfrifiad 2011 yr oedd 3,063,456 o bobl yn byw yng Nghymru, sy'n rhoi dwysedd o 147.4/km². Mae gan Gymru boblogaeth sy'n heneiddio; roedd y cyfartaledd oedran yn 2001 yn 36 o'i gymharu â 34 yn 1981.[1]

Crefydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Crefydd yng Nghymru

Gwlad draddodiadol Gristnogol yw Cymru, â thua 70% o'i phoblogaeth yn cydnabod eu hunain fel Cristnogion. Tan 1920 yr Eglwys Anglicanaidd oedd yr eglwys sefydledig yng Nghymru, ond yn y flwyddyn honno datgysylltwyd yr Eglwys yng Nghymru oddi wrth Eglwys Loegr, yn dilyn dros 60 mlynedd o ymgyrchu gan anghydffurfwyr.

Mae Cristnogaeth ar ei huchaf yng Ngogledd ac ardaloedd gwledig Cymru. Mae bron 20% o Gymry yn disgrifio eu hunain yn anghrefyddol, gyda'r lefelau uchaf yn y De. Mae Islam ar dwf yng Nghymru, yn enwedig yng Nghaerdydd a Chasnewydd, ac mae lleiafrifoedd Bwdhaidd, Hindŵaidd, Iddewig, a Sicaidd yn bodoli, gyda'r mwyafrif o ddilynwyr y crefyddau yma yn byw yn y brifddinas Caerdydd.

Ethnigrwydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Grwp ethnig 2001 poblogaeth 2001 canran 2011 poblogaeth 2011 canran
Gwyn: Cymreig/Seisnig/Albanaidd/Gwyddelig/Prydeinig 2,786,605 96.0 2,855,450 93.2
Gwyn: Gwyddelig 17,689 0.6 14,086 0.5
Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig 2,785 0.1
Gwyn: Gwyn Arall 37,211 1.3 55,932 1.8
Gwyn: Cyfanswm 2,841,505 97.9 2,928,253

95.6

Asiaidd/Asiaidd Prydeinig: Indiaidd 8,261 0.3 17,256 0.6
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig: Pacistanaidd 8,287 0.3 12,229 0.4
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig: Bangladeshaidd 5,436 0.2 10,687 0.3
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd 6,267 0.2 13,638 0.4
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig: Asiaidd Arall 3,464 0.1 16,318 0.5
Asiaidd/Asiaidd Prydeinig: Cyfanswm 31,715 1.1 70,128

2.3

Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig: Affricanaidd 2,597 0.1 3,809 0.1
Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig: Caribïaidd 3,727 0.1 11,887 0.4
Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig: Du Arall 745 <0.1 2,580 0.1
Du: Cyfanswm 7,069 0.2 18,276

0.6

Cymysg/grwpiau aml-ethnig: Gwyn a Du Caribïaidd 5,996 0.2 11,099 0.4
Cymysg/grwpiau aml-ethnig: Gwyn a Du Affricanaidd 2,413 0.1 4,424 0.1
Cymysg/grwpiau aml-ethnig: Gwyn ac Asiaidd 5,001 0.2 9,019 0.3
Cymysg/grwpiau aml-ethnig: Cymysg Arall 4,251 0.2 6,979 0.2
Cymysg: Cyfanswm 17,661 0.7 31,521

1.0

Grwp ethnig arall: Arabaidd 9,615 0.3
Grwp ethnig arall: Unrhyw grwp ethnig arall 5,135 0.2 5,663 0.2
Arall: Cyfanswm 5,135 0.2 15,278

0.5

Cyfanswm 2,903,085 100 3,063,456

100

[2]

Nododd dwy ran o dair o breswylwyr Cymru (2.0 miliwn) eu bod yn Gymry yn 2011. O'r rhain, nododd 218,000 ohonyn nhw eu bod yn ystyried eu hunain yn Brydeinwyr hefyd, nododd 424,000 eu bod yn Saeson a 519,000 eu bod yn Brydeinwyr yn unig.[3]

Iaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Ieithoedd Cymru

Cymraeg a Saesneg yw ddwy brif iaith Cymru: Cymraeg yw iaith frodorol y wlad, ac fe'i siaradir gan ryw 20% o'r boblogaeth, ond Saesneg yw iaith y mwyafrif o'r boblogaeth ers troad yr 20g. Mae bron 100% o'r rhai sy'n rhugl yn y Gymraeg yn medru'r Saesneg hefyd. Wenglish yw'r enw a ddefnyddir weithiau i ddisgrifio'r dafodiaith Saesneg a siaredir yng Nghymru.

Hanes demograffig[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes demograffig Cymru

Poblogaeth hanesyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Poblogaeth Cymru  
1536     278,000  
1620     360,000  
1770     500,000  
1801     587,000  
1851  1,163,000 
1911  2,421,000  
1921  2,656,000 
1939  2,487,000 
1961  2,644,023 
1991  2,811,865 
2011  3,063,456 
ffynhonnell: John Davies (1993). Hanes Cymru. pp. 258–59, 319. ; Cyfrifiad 2001, 200 Years of the Census in ... Wales (2001)

Rhwng 1801 a 1851 dyblodd y boblogaeth - o 587,000 i 1,163,000 ac erbyn 1911 roedd yn 2,421,000. Y rheswm pennaf dros hyn oedd twf yn Niwydiant glo Cymru yn enwedig yn Sir Forgannwg lle cynyddodd y boblogaeth o 71,000 yn 1801 i 232,000 yn 1851 and 1,122,000 in 1911.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]