Daeareg Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Daearyddiaeth Cymru
Daearyddiaeth Cymru

Rhanbarthau Cymru
Tirwedd Cymru
Daeareg Cymru
Hinsawdd Cymru
Hydroleg Cymru
Arfordir Cymru
Coetiroedd Cymru
Demograffeg Cymru


AOHNEau
Moroedd
Ynysoedd
Mynyddoedd
Llynoedd
Afonydd
Cymunedau
Trefi
Siroedd a Dinasoedd

Datblygodd daeareg Cymru dros y canrifoedd, erbyn hyn mae Cymru yn orynys ar dde-orllewin ynys Prydain Fawr. Mae'n gorchuddio ardal o 20,779 km² (8,023 milltir sgwar), tua 274 km (170 milltir) o'r de i'r gogledd a 97 km (60 milltir) o'r dwyrain i'r gorllewin. Mae'n ffinio gyda Lloegr i'r dwyrain a gyda'r môr ym mhob cyfeiriad arall: Culfor Hafren i'r de, Culfor Sant Sîor i'r gorllewin a Môr Iwerddon i'r gogledd. Mae 1,200 km (750 milltir) o orfordir yn gyfan gwbl, a nifer o ynysoedd, yr ynys fwyaf yw Ynys Môn ddim ymhell oddiar arfordir gogledd orllewin y wlad. Mae Cymru yn fynyddig iawn yn enwedig yn y gogledd a'r canolbarth.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeareg Cymru o'r awyr fel y mae heddiw.

Yn ystod y Cyfnod Proterosöig, tua 520 miliwn o flynyddoedd yn ôl, nid oedd ynysoedd Prydain fel ag y maent heddiw. Yn hytrach, roedd yr Alban yn ran o'r cyfandir Laurentia a gweddill y tir yn ran o'r cyfandir Gondwana.

Ganwyd y cyfandir Afalonia yn y Cyfnod Ordofigaidd pan oedd y cyfandiroedd yn dal i symud trwy weithgaredd tectonig, a ganwyd ynysoedd Prydain trwy wrthdrawiad rhwng cyfandiroedd. O ganlyniad i hyn cafwyd ffrwydriadau folcanig yng Nghymru. Mae'n bosib gweld olion y llosgfynyddoedd hyd at heddiw, er engraifft ar Robell Fawr. Roedd lafa yn gorchuddio rhan eang o Gymru ac Ardal y Llynnoedd. Yr adeg hon hefyd y ffurfiwyd llechfaen Cymru.

Yn ystod y Cyfnod Silwraidd ffurfiwyd mynyddoedd yr Alban (Orogenesis). Yng Nghymru, roedd y ffrwydriadau folcanic yn parhau. Gwelir lafa a lludw folcanig o'r cyfnod hwn yn Sir Benfro.

Roedd gwrthdrawiad cyfandiroedd a'r gweithgarwch folcanig o achos symudiadau'r platiau yn parhau yn ystod y Cyfnod Defonaidd. Bu i lefel y moroedd newid lawer gwaith a thrwy hyn ymgasglodd gwaddodion, gan ffurfio yr Hen Dywodfaen Coch.

Yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd roedd Prydain ger y cyhydedd a'r môr yn gorchuddio'r tir. Ffurfiwyd calchfaen a glo. Roedd holl gyfandiroedd y ddaear yn un cyfandir mawr, Pangaea, tua'r Cyfnod Carbonifferaidd ac roedd Prydain yng nghanol Panagea. Yn ystod hinsawdd sych y cyfnod ffurfiwyd y Dywodfaen Coch Newydd.

Yn ystod y Cyfnodau Permaidd a Thriasaidd symudodd y Deyrnas Unedig i'r gogledd a roedd y Môr Thetys yn gorchuddio'r tir. Yn ystod y Cyfnod Jwrasig holltwyd Pangea gan adael y Deyrnas Unedig ar Gyfandir Ewrasia.

Ni bu newid mawr iawn ym Mhrydain yn ystod Oes yr Iâ yn y Cyfnod Cwartaidd. Ffurfiwyd rhewlifau o amgylch y Môr Iwerddon a roedden nhw yn gorchuddio rhan fwyaf y tir.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]