Llwybr Arfordir Cymru
![]() | |
Math | atyniad twristaidd, llwybr arfordirol, llwybr troed pell ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cymru ![]() |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Cyfesurynnau | 52.39°N 4°W ![]() |
![]() | |
- Mae'r erthygl hon am arfordir Cymru; ceir hefyd Moroedd Cymru, sy'n ymestyn o'r arfordir.
Llwybr troed hir sy'n dilyn holl arfordir Cymru yw Llwybr Arfordir Cymru (Saesneg: Wales Coast Path), sy'n cael ei reoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n ymestyn am 870 milltir (1,400 km) o gyrion Caer yn y gogledd-ddwyrain i Gas-gwent yn y de-ddwyrain.[1]
Agorwyd y llwybr yn swyddogol ar 5 Mai 2012. Roedd yn cynnwys darnau newydd o lwybrau arfordirol ynghyd â rhai hŷn. Agorwyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn y de-orllewin yn 1970, Llwybr Arfordirol Ynys Môn a Llwybr Arfordir Llŷn yn 2006, a Llwybr Arfordir Ceredigion yn 2008.
Mae'n rhedeg trwy ddau Barc Cenedlaethol, tair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac 11 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.[2]
Mae'r llwybr mor agos i’r arfordir ag y caniatâ’r gyfraith, ac yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch, rheoli tir a chadwraeth.[3]
Llwybrau rhanbarthol
[golygu | golygu cod]Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi'i rannu'n wyth adran:[4]
- Gogledd Cymru ac Aber Afon Dyfrdwy (81 milltir / 132 km)
- Ynys Môn (135 milltir / 217 km)
- Llŷn ac Eryri (167 milltir / 264 km)
- Ceredigion (75 milltir / 119 km)
- Sir Benfro (182 milltir / 291 km)
- Sir Gaerfyrddin (68 milltir / 108 km)
- Gŵyr a Bae Abertawe (69 milltir / 111 km)
- Arfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren (97 milltir / 157 km)
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Dechrau'r llwybr ar gyrion Caer
-
Y llwybr ger Cemaes, Ynys Môn
-
Y llwybr ger Porth Ceiriad, Gwynedd
-
Y llwybr i'r gogledd o Langrannog, Ceredigion
-
Y llwbr ger Trewyddel, Sir Benfro
-
Arwyddbost ger Trwyn Oxwich, Penrhyn Gŵyr
-
Y llwbr ger Trwyn y Rhws, Bro Morgannwg
-
Diwedd y llwybr yng Nghas-gwent
-
Mae llawer o'r arfordir wedi'i ddiogelu fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig; Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n eu hamddiffyn
-
Fideo o forlin (neu arfordir) Cymru, o dan y dŵr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ynglŷn â'r llwybr", Llwybr Arfordir Cymru; adalwyd 6 Ebrill 2025
- ↑ bbc.co.uk - Wales Coast Path officially opens with events in Cardiff, Aberystwyth and Flint Adalwyd 10 Gorffennaf 2012.
- ↑ Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru; Archifwyd 2012-07-13 yn y Peiriant Wayback adalwyd 04 Mehefin 2013.
- ↑ Sylwer nad yw enwau'r adrannau hyn bob amser wedi bod yn gwbl gyson. "Ynglŷn â'r llwybr", Llwybr Arfordir Cymru; adalwyd 8 Ebrill 2025
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Swyddogol
- "Map Rhyngweithiol Llwybr Arfordir", Llwybr Arfordir Cymru