Arfordir
Enghraifft o'r canlynol | place type |
---|---|
Math | shore |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y rhan o'r tir sy'n ymylu â'r môr yw arfordir (o dri gair: 'ar+môr+tir) neu forlin ('môr' a 'llin' neu 'linell'). Nid oes yna linell fanwl gywir rhwng y tir ar môr oherwydd effaith y llanw, sy'n gyfnewidiol. Oherwydd hyn, mae'r gair arfordir felly'n cyfeirio at ardal neu stribed o dir a môr, yn hytrach na llinell denau. Gellir defnyddio'r gair hefyd am lyn. Gellir cyfeirio ato fel lleoliad e.e. gellir dweud fod Caerdydd ar arfordir De Cymru.
Cofnodir y gair yn gyntaf yn Brut Dingestow yn 13g: "Ac odyna y doeth Caswallavn a holl gedernyt yr enys ganthav y warchadv yr arfordir (maritima) racdav."[1]
Arfordir Cymru
[golygu | golygu cod]- Prif: Llwybr Arfordir Cymru
Agorwyd Llwybr Arfordir Cymru ar 5 Mai 2012. Mae'r llwybr mor agos i'r arfordir ag y caniatâ’r gyfraith, a mae'n cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch, rheoli tir a chadwraeth.[2] ac mae'n ymestyn am 870 milltir (1,400 km) o gyrion Caer yn y gogledd i Gas-gwent yn y de.[3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]-
Cymru ar hyd ei Glannau (2012)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ arfordir. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
- ↑ Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru; Archifwyd 2012-07-13 yn y Peiriant Wayback adalwyd 04 Mehefin 2013.
- ↑ firstnature.com - Countdown to the Wales Coast Path Adalwyd 10 Gorffennaf 2012.