Llanw

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Y llanw yw ymchwydd a mewnlifiad rheolaidd lefel dyfroedd y môr mewn canlyniad i rym atyniad disgyrchiant rhwng y ddaear, y lleuad a'r haul. Mae newidiadau mewn lleoliad cymharol y tri chorff hyn yn achosi amrywiad yng ngraddfa'r llanw. Mae'r rhan fwyaf o lefydd yn y byd yn cael llanw dwywaith y dydd ond gan fod 'diwrnod llanw' yn parhau am 24 awr 51 munud nid ydynt yn digwydd ar yr un amser bob dydd o'r flwyddyn a chynhyrchir gwybodlenni arbennig yn lleol i ddangos hynny.

Terminoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Terminoleg Aberdaron:

Mae hogia ifanc o Aberdaron yn cytuno nad oes yna'r fath beth â “llanw isel”.

llanw - pan mae'r môr i mewn,
llenwi - y broses o'r llanw yn dod i mewn. ('Mae'n llenwi'n gyflym hogia‘)
pen llanw - high tide (“Mae yna lanw uchal wythnos nesa”: cyfeira hyn at spring tide pan mae'r môr yn uwch na'r arfer, rhyw ddwywaith dair y flwyddyn.
gorllan - pen llanw.
llinnell gorllan - high tide mark, y llinell a welir ar y creigiau sy'n dangos pa mor uchel y mae'r môr yn codi.
trai - y môr allan 'Mae hi'n treio' - y broses o'r môr yn mynd allan (ebbing)
distyll - y trai pella. Dywed pysgotwyr ”awn ni allan ar y distyll' (y pysgod yn dwad i mewn efo'r llanw) h.y. fel mae'r môr yn troi ac yn dechra llenwi eto.

Mae trai mawr yn syrthio i'r un categori a llanw uchal sef y pellter mwya ar Spring tide e.e. ar drai mawr mae'n bosib gweld olion yr hen goedwig ar draeth Porth Neigwl. Efallai fod yna erbyn heddiw ddefnydd o 'ben trai' yn hytrach na distyll, ac o ddewis, mae hynny yn well na llanw isel.[1]

Globe stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Llanw
yn Wiciadur.
  1. Glenys Jones ym Mwletin Llên Natur rhifyn 38