Brut Dingestow

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Clawr golygiad Henry Lewis o'r Brut (Gwasg Prifysgol Cymru, argraffiad 1975)

Testun cynnar o'r ffug hanes Brut y Brenhinedd, y fersiwn Cymraeg Canol o'r Historia Regum Britanniae, llyfr enwocaf yr awdur Cambro-Normanaidd Sieffre o Fynwy (c.1100 - c.1155) a gyhoeddwyd ganddo tua'r flwyddyn 1136, yw Brut Dingestow. Fe'i ceir yn Llawysgrif Dingestow, sydd i'w dyddio i tua dechrau'r 14g. Ar sail manylion iaith ac orgraff, cynnigir fod y testun ei hun wedi cael ei ysgrifennu rhywbryd yn y 13g. Cyfeithiad rhydd neu addasiad o destun Lladin Sieffre ydyw, ac mae'n perthyn i un o'r chwech prif grŵp o fersiynau o Frut y Brenhinedd; Brut Dingestow yw'r testun hynaf yn y grŵp sy'n dwyn ei enw.[1]

Cefndir a chynnwys[golygu | golygu cod y dudalen]

Brut Sieffre o Fynwy a fu'n bennaf gyfrifol am ymledu chwedl y Brenin Arthur ledled Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Ffug hanes a geir yn y llyfr, a ysgrifenwyd yn Lladin, ond roedd ei ddylanwad yn aruthrol. Cafwyd sawl trosiad Cymraeg Canol diweddarach dan yr enw Brut y Brenhinedd neu Brut y Brytaniaid, ac yn eu plith Brut Dingestow. Er eu bod yn seiliedig ar waith Sieffre o Fynwy ceir gwahaniaethau pwysig yn ei gynnwys.[1]

Mae Brut Dingestow yn adrodd hanes honedig Ynys Prydain o ddyfodiad Brutus o Gaerdroia (tua 1000 o flynyddoedd CC, os credir yr hanes), disgynnydd Aeneas Ysgwydwyn, hyd farwolaeth y brenin Cymreig Cadwaladr yn y 7g (am grynodeb o'r cynnwys gweler Historia Regum Britanniae). Yn ôl Sieffre ei hun yr oedd wedi cyfieithu'r hanes o hen lyfr Cymraeg, ond ni chredir fod sail i hyn. Serch hynny mae'n amlwg fod rhai o'r bobl a digwyddiadau yn y llyfr (ac eithrio hanes Brutus a'i ddisgynyddion, a.y.y.b) yn seiliedig ar draddodiadau Cymreig dilys.[1]

Llawysgrif[golygu | golygu cod y dudalen]

Plas Dingestow, Llandingad

Ceir peth anghytuno am oed y llawysgrif. Yn ôl J. Gwenogvryn Evans mae'n perthyn i ddechrau'r 13g, ond y credir erbyn heddiw ei bod yn perthyn i ddechrau'r 14g, er bod y testun gwreiddiol, sydd ar goll, yn gynharach.[1]

Mae'n llawysgrif femrwn 7x5¼ modfedd. Mae'r testun yn llenwi 316 tudalen mewn llaw gain, hawdd i'w darllen. Copïwyd y testun yn Llanddingad (sef Dingestow), Sir Fynwy, ond mae hanes cynnar y llawysgrif yn dipyn o ddirgelwch.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Henry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Gwasg Prifysgol Cymru, 1942). Y testun golygiedig gyda rhagymadrodd a nodiadau (ieithyddol yn bennaf).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Henry Lewis (gol.), Brut Dingestow (Gwasg Prifysgol Cymru, 1942).