John Gwenogvryn Evans

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth J. Gwenogvryn Evans)
Jump to navigation Jump to search
John Gwenogvryn Evans
Ganwyd 20 Mawrth 1852 Edit this on Wikidata
Llanybydder Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Mawrth 1930 Edit this on Wikidata (78 oed)
Llanbedrog Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Ysgrifennwr, clerigwr, paleograffydd Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, William Thomas Edit this on Wikidata

Paleograffydd a golygwr hen lawysgrifau Cymreig oedd John Gwenogvryn Evans (20 Mawrth 185225 Mawrth 1930).

Cafodd ei eni yn Llanybydder, Sir Gaerfyrddin. Un o'i athrawon oedd William Thomas (Gwilym Marles). Astudiodd ddiwinyddiaeh a daeth yn weinidog i'r Undodiaid ond oherwydd afiechyd rhoddodd y gorau i'r weinidogaeth. Roedd ganddo ddiddordeb dwfn mewn hen lawysgrifau Cymreig, gan sefydlu ei wasg ei hun ym Mhwllheli er mwyn eu cyhoeddi.

Bu John Gwenogvryn Evans yn ymgyrchu dros gael llyfrgell ddiogel i Gymru. Roedd llyfrau gwerthfawr mewn perygl o gael eu difa gan dân, lleithder a phryfed. Roedd cysylltiad Gwenogvryn Evans â Syr John Williams yn bwysig yn hanes sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru [1]

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. yn y lle hwn Trevor Fishlock a Mererid Hopwood llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007 Td 158/9

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.