William Thomas (Gwilym Marles)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William Thomas
Revd William Thomas (Gwilym Marles, 1834-79) (U) NLW3364226.jpg
Ffugenw Gwilym Marles Edit this on Wikidata
Ganwyd 1834 Edit this on Wikidata
Llanybydder Edit this on Wikidata
Bu farw 11 Rhagfyr 1879 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda John Gwenogvryn Evans Edit this on Wikidata

Bardd, ysgolhaig a gweinidog Undodaidd oedd Gwilym Marles, neu Gwilym Marlais, enw barddol y Parch. William Thomas (1834 - 11 Rhagfyr 1879). Ewythr tad y bardd Dylan Thomas oedd ef: credir y tynnodd Dylan ar gof ei dad am Wilym Marles yn ei bortread o'r Parchedig Eli Jenkins yn y ddrama Under Milk Wood.

Carreg fedd Gwilym Marles, capel Llwynrhydowen, c.1885

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn frodor o Lanybydder, Sir Gaerfyrddin lle y'i ganed rywbryd yn y flwyddyn 1834. Cafodd ei addysg brifysgol yn Rhydychen. Ef oedd y gweinidog ar eglwys Llwyn Rhydowen adeg y troad allan yn 1876. Roedd yn athro preifat i'r bardd William Thomas (Islwyn) (1832-1878). Bu farw ar yr 11eg o Ragfyr 1878.

Cerddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddwyd casgliad o'i weithiau barddonol dan y teitl Prydyddiaeth yn 1859. Pruddglwyfus yw ei awen, ond mae ei gydymdeimlad â'r werin a'i athroniaeth Radicalaidd yn amlwg.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.