Neidio i'r cynnwys

William Thomas (Islwyn)

Oddi ar Wicipedia
William Thomas
FfugenwIslwyn Edit this on Wikidata
Ganwyd3 Ebrill 1832 Edit this on Wikidata
Ynys-ddu Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 1878 Edit this on Wikidata
Ynys-ddu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ramadeg y Bont-faen Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, pregethwr Edit this on Wikidata
Am ddefnydd arall o'r enw Islwyn gweler yma.

Bardd o Gymro a anabyddir fel arfer wrth ei enw barddol Islwyn oedd William Thomas (3 Ebrill 183220 Tachwedd 1878). Er nad enillodd yr un o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol ac roedd yn gymharol anadnabyddus yn ystod ei fywyd, erbyn diwedd y 19g dechreuwyd ei ystyried yn un o feirdd Cymraeg mwyaf ei oes.[1][2] Fe'i ganed ger yr Ynys-ddu yng Ngwent (bellach yn rhan o Fwrsdeisdref Sirol Caerffili) ac mae wedi'i ddisgrifio fel llenor mwyaf y Sir Fynwy hanesyddol.[3]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Cefndir Teuluol

[golygu | golygu cod]
Y tŷ lle ganed Islwyn.

Roedd Islwyn yn fab i Morgan a Margaret Thomas, yr ieuengaf o naw plentyn. Cafodd ei eni mewn tŷ ger pentref bychan Ynysddu, yn Nyffryn Sirhywi, hanner ffordd rhwng Tredegar a Chasnewydd, ac yno y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes. Saif Ynysddu wrth droed Mynydd Islwyn, a gymerodd Islwyn yn ddiweddarach fel enw barddol iddo'i hun. Er bod tad Islwyn yn siaradwr Cymraeg ymddengys mai Saesneg oedd iaith yr aelwyd.[4]

Roedd ei rieni'n weddol gefnog a chafodd addysg mewn amrywiol ysgolion yn Nhredegar, Casnewydd, Y Bont Faen ac Abertawe. Bwriedid iddo fod yn dirfesurydd, ond dangosodd ddiddordeb cynnar mewn barddoniaeth a phregethu. Methodistiaid oedd ei deulu ac mae'n debyg y bu ei frawd yng nghyfraith, Daniel Jenkyns, yn ddylanwad sylweddol ym magu diddordeb Islwyn yn yr iaith Gymraeg.[5] Dechreuodd gyfansoddi barddoniaeth yn gynnar; ei brif athrawon barddol cynnar oedd y beirdd lleol Gwilym Ilid ac Aneurin Fardd.[6]

Ann Bowen

[golygu | golygu cod]

Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe cyfarfu â merch ifanc o'r enw Ann Bowen ("Anne" mewn rhai ffynhonellau), merch i roser. Roeddent yn bwriadu priodi ond bu farw Ann ar 24 Hydref 1853 yn ddisymwth wedi salwch byr. Ugain oed oedd Islwyn ar y pryd ac mae ôl y brofedigaeth honno a'r hiraeth a ddeilliodd ohoni i'w weld ar lawer o waith diweddarach Islwyn.[6][5]

Islwyn yn ŵr ifanc; roedd eisoes wedi cwblhau'i waith ar Y Storm erbyn adeg tynnu'r llun hwn yn 1859.

Y Storm

[golygu | golygu cod]

I'r cyfnod yn syth ar ôl marwolaeth Ann, ac yn wir, yn ymateb uniongyrchol i'r digwyddiad hwnnw, y perthyn gwaith mwyaf ac enwocaf Islwyn fel bardd, sef y ddwy bryddest hir sy'n dwyn yr un teitl, Y Storm. Gweithiodd Islwyn ar y Storm cyntaf o 1854 hyd at dechrau 1856, ac yna ar yr ail yn ystod 1856.[7] Ni chyhoeddwyd y naill gerdd na'r llall yn llawn yn ystod bywyd y bardd, nac yn eu ffurfiau gwreiddiol nes canrif yn ddiweddarch, ond bellach ystyrir mai hwythau yw uchafbwyntiau ei waith,[8][9] ac fe'u cyfrir ymysg uchafbwyntiau barddoniaeth Gymraeg yn gyffredinol ac yn y 19g yn enwedig.[10]

Er bod rhai llinellau'n gyffredin rhyngddynt cerddi annibynnol yw'r ddwy gerdd, fodd bynnag tebyg iawn yw eu cymeriad a'u deunydd thematig. Yng ngeiriau Glyn Tegai Hughes, cofiannydd Islwyn, "Hanfod y ddwy gerdd yw'r frwydr rhwng amser ac anfarwoldeb, rhwng atgof a'r presennol, rhwng sylwedd ac ymddangosiad. Maes y gad yw'r byd naturiol, ond ar wedd gosmig yn hytrach na thirluniadol."[11] Ceir ynddynt cyfeiriadau uniongyrchol ac anuniongyrchol at Ann Bowen ac at stromfeydd llythrennol a throsiadol; roedd awdl Caledfryn ar Long-ddrylliad y Rothesay Castle yn ddylanwad sylweddol ar y gerdd.[12]

Bu cryn dryswch ynghylch natur Y Storm oherwydd i Islwyn gyhoeddi rannau o'r gerdd gyntaf fel cerddi unigol yn ystod ei fywyd. Cyhoeddwyd golygiad o'r ail Storm gan O. M. Edwards yn 1897, ond cynhwysodd rhai rhannau o'r gerdd gyntaf hefyd nad oedd wedi sylweddoli eu bod yn rannau o gerdd gwahanol, yn ogystal â deunyddiau eraill nad oeddynt yn rhan o'r Storm o gwbl. Hyd nes cyhoeddwyd golygiadau safonol a llawn o'r ddwy gerdd yn 1980 ac 1990 gan Meurig Walters bu cryn dryswch a dadlau ynghylch union gynnwys, ffurf, strwythur ac arwyddocâd y cerddi.[8] Nodwedd diddorol am y ddwy Storm sy'n eu gwneud yn wahanol i'r mwyafrif o gerddi hir y cyfnod yw nad oeddynt wedi'u bwriadu ar gyfer cystadleuaeth Eisteddfodol: yn wir, honodd W. J. Gruffydd mai Islwyn oedd y bardd cyntaf ers Dafydd Ionawr i ganu cerdd hir ar destun o'i ddewis ef ei hun.[13]

Mae gwir fwriad Islwyn ynghylch y cerddi hyn yn parhau'n ddirgelwch ac nid yw'n hysbys ai'r bwriad oedd i'r Ail Storm ddisodli'r cyntaf, neu a fwriadodd Islwyn eu cyfuno neu eu diwygio eto rywdro. Cred O. M. Edwards (nad oedd wedi dirnad bodolaeth y gerdd gyntaf) oedd bod Islwyn yn bwriadu cyfuno'i holl waith barddonol o dan y teitl Y Storm,[14] ond nid oes tystiolaeth o hyn mewn gwirionedd ac mae'n bosib iawn mai methiannau oeddynt yn ei dyb ef nad oedd yn eu hystyried yn deilwng i'w cyhoeddi.

Islwyn, tua 1875

Bardd Eisteddfodol a Newyddiadurwr

[golygu | golygu cod]

Yn 1854 dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid; fe'i ordeiniwyd yn 1859 ond ni ddaeth yn weinidog ar eglwys erioed. Cynhaliai ei hunan drwy'r etifeddiaeth a gawsai o'i rieni sef rhes o dai rhent gerllaw, a chyfoeth ei wraig Martha Davies o Abertawe, llys-chwaer Ann, a briododd yn 1864. Ni chawsant blant. Gweithiodd hefyd fel newyddiadurwr, golygydd colofnau barddol a sylwebydd ar lenyddiaeth gan mwyaf. Cyfrannai'n gyson i'r cylchgronau, e.e. Y Traethodydd, Y Drysorfa, Y Dysgedydd a'r Cylchgrawn. Yn 1854 cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf, Barddoniaeth. Bu'n olygydd ar Y Cylchgrawn, Yr Ymgeisydd, Y Glorian a'r Gwladgarwr ac ar golofnau barddoniaeth Y Faner a'r Cardiff Times.

Wedi rhoi'r Storm i'r neilltu yn 1856, barddoniaeth ar gyfer cystadlaethau oedd cyfran helaeth o'i weithgarwch llenyddol dros weddill ei oes. Cystadleuai yn yr eisteddfodau lleol a'r Eisteddfod Genedlaethol ac er na enillodd yr un o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol er gwaethaf sawl ymdrech, bu'n ddigon llwyddiannus yn y mân Eisteddfodau: enillodd y goron am ei awdl ar Carnhuanawc yn Eisteddfod Y Fenni yn 1853; enillodd cadeiriau yn Y Rhyl am awdl Y Nos yn 1870, yng Nghaergybi am awdl Moses yn 1872, yng Nghaerffili am awdl Cartref yn 1874 ac yn Nhreherbert am awdl Y Nefoedd yn 1877.

Cartref Islwyn (y tŷ olaf ar y dde) wrth droed Mynydd Islwyn

Rhoddwyd y portread canlynol ohonno gan ei gyfaill oes Daniel Davies ohono:

"Bychan ydoedd o gorffolaeth, ac ysgafn, tua phump troedfedd a chwech modfedd o daldra; yr oedd o bryd tywyll, a'i ymddangosiad yn llednais a gwylaidd; yr oedd y pen yn fawr... Yr oedd y wyneb yn hir, ac yn hardd, a'r trwyn yn lluniaidd, heb fod yn fawr, a'r gwefusau hytrach yn drwchus, a thoriad y genau'n brydferth; yr oedd y talcen yn fawr iawn... yr oedd y llygaid, y rhai oeddynt yn llechu o dan aeliau trymion, yn llawn, yn fawrion, a disglaer, a'u trem ymhell."[5]
Bedd Islwyn yng Nghapel y Babell, Cwmfelinfach.

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu iechyd Islwyn yn fregus erioed a bu farw ar 20 Tachwedd, 1878, yn 46 oed. Parhaodd i alaru Ann Bowen drwy ei farddoniaeth gydol ei oes, fel y dengys cerddi fel Aeth Chwarter Canrif Heibio, a ysgrifennwyd yn 1877 neu 1878, lle mae'n dal i alaru ar ei ôl ei hen gariad (adlais yw'r gerdd hon o gerdd arall o'i eiddo, Aeth Blwyddyn Heibio, a ysgrifennwyd yn 1854). Yn ôl un tyst oedd yn bresennol pan fu farw Islwyn, geiriau olaf y bardd oedd, "Diolch i ti, Martha, am y cyfan a wnest i mi. Buost yn garedig iawn. 'Rwyf yn mynd at Ann 'nawr".[15] Fodd bynnag, mae Glyn Tegai Hughes yn taflu amheuaeth ar wirionedd y chwedl yma, gan nodi mai Saesneg oedd iaith aelwyd Islwyn a Martha, ac nad oes sôn am y geiriau hyn gan unrhyw dystion eraill; awgryma bod elfen perfformiadol i'r stori, waeth a yw hi'n wir neu beidio, gyda galar hir yn cydymffurfio â'r ddelfryd ramantus o fardd teimladol.[16] Yr argraff a geir o lythyrau Islwyn yw mai cariadus oedd ei berthyngas â Martha,[17] argraff a ategir ati gan atgofion eu cymdogion amdanynt.[18]

Claddwyd ef yng Nghapel y Babell, yng Nghwmfelinfach,[19] sef y capel a fynychodd drwy gydol ei oes. Bu amgueddfa goffa i Islwyn yng Nghapel y Babell yng ngofal Cymdeithas Goffa Islwyn, er ymddengys nad yw'r capel bellach (ers 2024) ar agor, na'r gymdeithas yn bodoli.

Gwaddol

[golygu | golygu cod]
Cadair Islwyn yn eisteddfod Caerffili 1874

Nodweddir gwaith Islwyn ar ei orau gan gyfriniaeth feiddgar a delweddau ysbrydoledig. Cofir y bardd yn bennaf am ei ddwy bryddest hir, uchelgeisiol a dylanwadol sy'n dwyn y teitl Y Storm, ac sy'n fyfyrdodau ar Natur, y Greadigaeth a ffawd dyn.

Mae cydnabyddiaeth eang bod y rhannau gorau o'r ddwy Storm yn cynrychioli barddoniaeth mwyaf pwerus y bardd os nad yr 19g. Er ei fod yn feirniadol o'r gerdd fel cyfanwaith ystyriodd W. J. Gruffydd bod trydedd rhan yr ail Storm yn "anrhaethol bwysicach na dim arall yng nghyfraniad llenyddiaeth Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg."[20] I R. M. Jones roedd yr ail Storm yn un o gerddi hir orau'r ganrif ac yn sefyll "ymhlith gorchestion cydnabyddedig a diogel ein llenyddiaeth."[10] Yn cyfeirio at y ddwy gerdd, meddai cofianydd Islwyn Glyn Tegai Hughes:

Nid yw'r cerddi heb eu gorlwyth o ddelweddau emosiynol, o'r straenio am yr aruchel a nodwyd, o ddilyn ffasiynau llenyddol eilradd. Nid oes cysondeb yn y trafod motiffau a symbolau - gweithredol, synfyfyriol, gweledgiaethol, breuddwydiol, llesmeiriol, diwiynyddol, yn eu tro. Ond prin bod dryswch a blerwch o unryw bwys; llif y dychymyg ac angerdd y mynegiant sy'n ysgubo popeth o'u blaen, o leiaf yn yr ariâu mawr sy'n codi byth a hefyd allan o'r adroddgan. Yng nghroth yn gerdd y mae rhyw gydweddiadaau'n tyfu: metafforau tragwyddoldeb, ehediadau daearyddol, gofodol a hanesyddol, gweledigaethau ysbeidiol o ddoleniad natur, meddwl, a'r anfeidrol. Y rhyfeddod yw gweld llanc 22 a 23 oed o'r Ynys-ddu yn anelu mor uchel, ac yn cyrraedd y nod mor aml.[21]

Nodwyd ar y ffotograff hwn o 1878: 'Cwmni o Gymmrodorion Caerdydd ar lan bedd Islwyn'

24 oed oedd Islwyn pan roddodd Y Storm o'r neilltu. Er iddo fyw am dros ddwy degawd eto a chynhyrchu miloedd o linellau o farddoniaeth, mae sawl beirniad o'r farn mai, ar y gorau, ail-droedio'r un tir â'r Storm oedd ar ôl 1856.[22] Nid oes llawer o lewyrch i'w awdlau Eisteddfodol.[23]

Nid oedd Islwyn yn neilltuol o adnabyddus yn ystod ei oes o'i gymharu â beirdd eraill fel Ceiriog, Talhaiarn ac eraill. Fodd bynnag daeth yn gynyddol ddylanwadol ar ôl ei farwolaeth ac ef oedd prif dylanwad mudiad a enwyd ar y pryd Y Bardd Newydd, sef beirdd a brofodd cryn lwyddiant Eisteddfodol yn ystod yr 1890au: Iolo Caernarfon, Ben Davies ac eraill.[24] Isel yw bri y mudiad hwn heddiw.

Llyfryddiaeth ddethol

[golygu | golygu cod]
Cerddi
  • Barddoniaeth (1854)
  • Caniadau (1867)
  • Gwaith Barddonol Islwyn, gol. Owen M. Edwards (Wrecsam, 1897)
  • Gwaith Islwyn Cyfres y Fil gol. Owen M. Edwards (Ab Owen, Llanuwchllyn 1903)
  • Detholiad o waith Islwyn, gol. J. T. Jones (1932)
  • Y Storm, gol. Meurig Walters (1980)
Astudiaethau
  • T. H. Parry-Williams, Islwyn (1948)
  • Meurig Walters, Islwyn: Man of the Mountain (1983)
  • Hughes, Glyn Tegai (2003). Islwyn (Dawn Dweud). Gwasg Prifysgol Cymru.
  • Stephens, Meic (gol.) (1997). Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (2il Argraffiad). Gwasg Prifysgol Cymru.
  • Walters, Meurig (gol.) (1980). "Storm" Gyntaf Islwyn. Yr Academi Gymraeg.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Griffith John Williams (1958) The Welsh Tradition of Gwent, Plaid Cymru. t.14
  2. https://www.fergusthomas.com/news/the-faculty-divine-exhibition
  3. Alan Roderich, 'A History of the Welsh Language in Gwent', Gwent Local History, 51, Hydref 1981 t.13
  4. J. E. Caerwyn Williams, 'Islwyn', Y Llenor, Cyf. 28, 1949, t.232
  5. 5.0 5.1 5.2 O. M. Edwards, Rhagymadrodd Gwaith Barddonol Islwyn, gol. Owen M. Edwards (Wrecsam, 1897).
  6. 6.0 6.1 "Islwyn". Cyrchwyd 9 Ebrill 2025. Unknown parameter |site= ignored (help)
  7. Meurig Walters, Storm Gyntaf Islwyn, t. 159.
  8. 8.0 8.1 Stephens, t. 685.
  9. "Islwyn". Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2024. Unknown parameter |site= ignored (help)
  10. 10.0 10.1 Jones, R. M. (gol.) 1988 Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, Cyhoeddiadau Barddas. t.11-13
  11. Hughes, Glyn Tegai (2003). Islwyn (Dawn Dweud). Gwasg Prifysgol Cymru. t.136-7
  12. Hughes, Glyn Tegai (2003). Islwyn (Dawn Dweud). Gwasg Prifysgol Cymru. t.110
  13. Gruffydd, W. J.; "Islwyn", Y Llenor II.2 Haf 1923, tt.71
  14. Edwards, O. M., "Rhagymadrodd", Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil), 1906. t.4
  15. https://www.bbc.co.uk/cymru/bywyd/safle/pobl/tudalen/islwyn.shtml
  16. Hughes, Glyn Tegai (2003). Islwyn (Dawn Dweud). Gwasg Prifysgol Cymru
  17. Hughes, Glyn Tegai (2003). Islwyn (Dawn Dweud). Gwasg Prifysgol Cymru
  18. "Hando Revisits Beloved Islwyn". Unknown parameter |site= ignored (help)
  19. http://ogre-blog.blogspot.com/2006/03/babel-chapel-cwmfelinfach-burial-place.html
  20. Gruffydd, W. J.; "Islwyn", Y Llenor II.2 Haf 1923, t.99; Noder mai at 'bedwaredd' ran y gerdd y mae Gruffydd yn cyfeirio yn y ffynhonell, camgymeriad sy'n deillio o flêrwch golygiad O. M. Edwards o'r gerdd.
  21. Hughes, t. 182-3.
  22. Hughes, t. 276.
  23. Hughes, t. 319-327.
  24. Hughes, t. 276.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: