Y Fenni

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Fenni
Abergavenny panorama.jpg
Math tref farchnad, Cymuned Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i Östringen, Sarno, Canton Beaupréau Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Fynwy Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Gerllaw Afon Wysg Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 51.8331°N 3.0172°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000775 Edit this on Wikidata
Cod OS SO295145 Edit this on Wikidata
Cod post NP7 Edit this on Wikidata
Cod deialu 01873 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Nick Ramsay (Ceidwadwyr)
AS/au David Davies (Ceidwadwr)

Mae'r Fenni (Saesneg: Abergavenny) yn dref farchnad yn Sir Fynwy. Lleolir tua 15 milltir (24 km) i'r gorllewin o Drefynwy ar yr A40 ac ar yr A465, a thua 6 milltir (10 km) i'r de orllewin o'r ffin â Swydd Henffordd, a Lloegr. O'i wreiddiau yn gaer Rhufeinig, deuai'n dref gaerog ganol-oesol o fewn Y Mers. Mae gan y dref adfeilion castell carreg a adeiladwyd yn sgil dyfodiad y Normaniaid.

Hysbysebir y dref fel "Porth i Gymru" (Gateway to Wales). Fel yr awgrymir gan yr enw Saesneg, lleolir y Fenni ar aber afon Gafenni ar afon Wysg. Amgylchynir y dref gan ddau fynydd, sef Blorens (559m) a Pen-y-Fâl (596m), a phum bryn: Ysgyryd Fawr, Ysgryd Fach, Deri, Rholben a Mynydd Llanwenarth.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Nick Ramsay (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw David Davies (Ceidwadwr).[1][2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwreiddiau'r dref a'i henw[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Gobannium yn gaer Rufeinig a oedd yn amddiffyn y ffordd ar hyd dyffryn Wysg a oedd yn cysylltu Burrium (Brynbuga) ac Isca Augusta (Caerllion) yn y de â Cicucium (Y Gaer) a'r canolbarth. Adeiladwyd hefyd er mwyn trechu'r Silwriaid brodorol. Cafwyd hyd i adfeilion y gaer hon yn y 1960au pan adeiladwyd y swyddfa bost newydd.

Daw'r enw "Y Fenni" o'r hen enw "Abergafenni". Enwyd afon Gafenni ar ôl y gaer Rufeinig "Gobannium", a enwyd ar ôl yr hen dduw Celtaidd "Gobannos". Mae hwnnw'n gyfarwydd i ni heddiw fel Gofannon fab Dôn yn Culhwch ac Olwen. Mae ei enw'n gytras â'r gair 'gof', yn awgrymu cysylltiadau hynafol rhwng gofaint ag ardal y Fenni.

Cyfnod y Normaniaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Tyfai'r Fenni'n dref o dan reolaeth Arglwyddi'r Fenni. Hamelin de Balun, o Ballon, Maine-Anjou, ger Le Mans, Ffrainc, oedd y barwn cyntaf. Sefydlodd abaty Benedictaidd yn y 11g, lle saif Eglwys y Santes Fair erbyn hyn. Derbyniai'r eglwys honno degwm gan y castell a chan y dref. Ceir cerfluniau diddorol yno.

Oherwydd ei lleoliad ar y ffin gwelai'r dref sawl rhyfel yn ystod y 12fed a'r 13g. Ym 1175, lladdwyd holl benaethiaid Cymreig yr ardal gan Wilym Brewys, tad y Gwilym Brewyd a geid yn hanes Siwan gan Saunders-Lewis. Gwahoddodd Gwilym y penaethiaid lleol i'w gastell am wledd ddydd Nadolig. Rhoes y Cymry ei arfau iddo er mwyn dod i mewn i'r castell, ond yn lle datrys y problemau a oedd ganddynt, fe'u bradychwyd gan Wilym a'u lladd. Mae Gerallt Gymro yn adrodd i'r Cymry gipio'r castell o Frewys ym 1182.

1300 i 1900[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymosododd Owain Glyndŵr â'r dref ym 1404. Yn ôl yr hanes, daeth gwŷr Glyn Dŵr i mewn i'r dref â chymorth Cymraes leol a adawodd iddynt ddod i mewn drwy borth ar Stryd y Farchnad liw nos. Agorodd y drws a daeth y fyddin i mewn yn llosgi'r dref, ond yn gadael y castell i fod. Gelwir Stryd y Farchnad "Traitors' Lane" hyd heddiw.

Sefydlwyd Ysgol y Brenin Harri VIII ym 1542.

Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr daeth y Brenin Siarl I i'r Fenni er mwyn cymryd rhan yn achos llys Syr Trefor Williams, a seneddwyr eraill.

Sefydlwyd Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni ar 2 Tachwedd 1833, yn y Sun Inn yn Y Fenni, ac yn y dref cynaliwyd Eisteddfodau'r Fenni o 1834 i 1854.

Hanes diweddarach[golygu | golygu cod y dudalen]

Carcharwyd Rudolph Hess yng Nghwrt Maindiff yn ystod yr ail Ryfel Byd, ar ôl iddo hedfan i'r Alban.

Marchnadoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Marchnad Wartheg[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynhelir marchnad wartheg yn y Fenni ar y safle bresennol ers 1863. Rhwng 1825 a 1863 cynhelid marchnad ddefaid ar Stryd y Castell, er mwyn atal y preswylwyr rhag gwerthu eu defaid ar hyd strydoedd y dref. Mae'r farchnad yn cael ei rheoli heddiw gan Abergavenny Market Auctioneers Ltd., sydd yn cynnal arwerthiannau rheolaidd yno. Gwerthir defaid a phorthiant ar ddydd Mawrth, ac weithiau gwerthir gwartheg ar ddydd Gwener.

Wrth i farchnad wartheg Casnewydd gau, cynhelir y farchnad honno yn y Fenni bob dydd Mercher.

Y Neuadd Farchnad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir amryw farchnadoedd yn y neuadd farchnad.

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni ym 1838, 1913 ac yn 2016.
  • Ym 1968 cyhoeddwyd y gân "Abergavenny" gan Marty Wilde.
  • Mae gan y Fenni tair gefeilldref, sef Ostringen, Beaupreau a Sarno.
  • Ceir cyfeiriadau at y Fenni yn llyfrau Sherlock Holmes a Harry Potter.
  • Ymhlith aelodau cymdeithas Cymreigyddion y Fenni oedd yr hanesydd Carnhuanawc.
  • Ceir croes eglwysig o bwys gerllaw, sef Croes Eglwys St Issau.

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir yma nifer o eglwysi: Eglwys y Santes Fair yw prif eglwys y dref, ac mae'n un o'r eglwysi mwyaf yng Nghymru. Ceir dwy eglwys a gysegrwyd i Sant Teilo gerllaw: y cyntaf yn Llandeilo Bertholau a'r ail yn Llandeilo Gresynni. Mae tŵr cam eglwys Cwm-iou yn nodedig, ychydig filltiroedd o Aberhonddu; gerllaw, saif Priordy Llanddewi Nant Hodni, priordy Awstinaidd ger pentref Llanddewi Nant Hodni yng nghymuned Crucornau.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Fenni (pob oed) (10,078)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Fenni) (948)
  
9.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Fenni) (6946)
  
68.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Fenni) (1,997)
  
43.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 05 Rhagfyr 2014
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]