Neidio i'r cynnwys

Ysbyty Pen-y-Fal

Oddi ar Wicipedia
Ysbyty Pen-y-Fal
Mathysbyty, cyn ysbyty Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Rhagfyr 1851 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadY Fenni Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8242°N 3.0092°W Edit this on Wikidata
Map

Ysbyty meddwl yn y Fenni, Sir Fynwy, oedd Ysbyty Pen-y-Fal.[1][2]

Fel canlyniad i ddeddfwriaeth y County Asylums Act 1845, penderfynwyd adeiladu sefydliad mawr yn y Fenni i wasanaethu anghenion pedair sir – yr hen Sir Fynwy, Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Swydd Henffordd – dan yr enw'r "Joint Counties' Lunatic Asylum".

Cynlluniwyd y seilam yn yr arddull Gothig gan Thomas Fulljames. Agorodd yn Rhagfyr 1851. I ddechrau roedd ganddo 210 o gleifion mewn 12 ward. Ychwanegwyd asgell clafdy yn 1861, golchdy yn 1875, bloc gweinyddu yn 1883, bloc epileptig yn 1883, a bloc ystafelloedd cysgu ar gyfer gweithwyr ym 1891.

Yn ystod hanner olaf y 19g bu gostyngiad mawr yn nalgylch y seilam. Er hynny, ar ei anterth ar ddiwedd y ganrif roedd ganddo 1,170 o gleifion. Fe'i ailenwyd yn "Monmouthshire Asylum" yn 1897 ac yn "Monmouth Mental Hospital" yn 1930. Daeth yn "Ysbyty Pen-y-Fal" pan grëwyd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 1948. Ar ôl cyflwyno polisi Gofal yn y Gymuned ar ddechrau’r 1980au aeth yr ysbyty i gyfnod o ddirywiad ac yn y diwedd daeth i ben yn 1997.

Mae'r prif adeilad yr ysbyty yn adeilad rhestredig Gradd II.[3] Troswyd yr adeilad hwn yn llety moethus gan Redrow plc yn 2001

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Pen-y-Fal", County Asylums; adalwyd 10 Tachwedd 2024
  2. "Pen-y-Fal, Psychiatric Hospital; Abergavenny Asylum", Coflein; adalwyd 10 Tachwedd 2024
  3. "Parc Pen-y-fal"", British Listed Buildings; adalwyd 10 Tachwedd 2024