Drenewydd Gelli-farch

Oddi ar Wicipedia
Drenewydd Gelli-farch
Eglwys Sant Thomas a Becket, Drenewydd Gelli-farch
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6388°N 2.7557°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001080 Edit this on Wikidata
Cod OSST478936 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map

Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Drenewydd Gelli-farch,[1] weithiau Trenewydd Gelli-farch (Saesneg: Shirenewton).[2] Fe'i lleolir dair milltir i'r gorllewin o dref Cas-gwent a tua 500 troedfedd (154 m) uwch lefel y môr.

Ceir "Gelli-farch" arall ger 'Cilfrew' ym Morgannwg, dyna pam y tyfodd yr enw "Drenewydd" i wahaniaethu'r ddau. Lle coediog ydy "gelli" ac mae'r ardal yn dal i fod yn gyfoethog ei goed.

Cyn dyfodiad y Normaniaid, roedd yn rhan o fforest Coed Gwent a chantref Gwent-is-coed. Mae henebion y cylch yn cynnwys Crug Heol y Mynydd. Ceir cyfeiriad at y lle yn Llyfr Dydd y Farn, pan oedd yn rhan o diroedd yn perthyn i Durand, Rhingyll Caerloyw. Cysegrwyd yr eglwys, a adeiladwyd yn hanner cyntaf y 13g, i Sant Thomas à Becket. Roedd y croniclydd Adda o Frynbuga yn rheithor yr eglwys yma yn 1399.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Davies (Ceidwadwr).[4]


Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Drenewydd Gelli-farch (pob oed) (1,145)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Drenewydd Gelli-farch) (76)
  
6.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Drenewydd Gelli-farch) (559)
  
48.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Drenewydd Gelli-farch) (139)
  
31.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Rhagfyr 2021
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-21.
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]