Adda o Frynbuga
Adda o Frynbuga | |
---|---|
Ganwyd | c. 1352, c. 1350 |
Bu farw | 1430 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd |
Offeiriad, canonydd a hanesydd canoloesol o Gymru oedd Adda o Frynbuga (Lladin, Adæ de Usk: c. 1352 – 1430). Mae'n adnabyddus am ei gronicl Lladin o hanes Cymru a Lloegr yn ei gyfnod, Chronicon Adæ de Usk, sy'n ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes gwrthryfel Owain Glyndŵr.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cafodd Adda ei eni ym Mrynbuga, Gwent, yn ne-ddwyrain Cymru (Sir Fynwy heddiw). Cafodd nawdd gan Edmund Mortimer, 3ydd Iarll y Mers, a etifeddasai Arglwyddiaeth Brynbuga trwy ei wraig Philippa. Gyda chefnogaeth Mortimer, aeth Adda i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, lle enillodd ei ddoethuriaeth a statws extraordinarius (arbenigwr) mewn Cyfraith Ganonaidd. Arosodd yn Rhydychen fel athro yn y Gyfraith. Cymerodd ran yn yr ymladd arfog rhwng y Gogleddwyr a'r Deheuwyr yn y ddinas honno rhwng 1388 a 1389, gan ochri â'r Deheuwyr, a gafodd gefnogaeth y Cymry, am ei fod yn Gymro.
Ar ôl gadael Rhydychen gweithiodd fel twrnai canonaidd yn Lloegr am saith mlynedd. Bu'n un o'r twrneiod a holodd yr heretig o Lolard, Wallter Brut yn 1390. Bu yn llys esgobaeth Caergaint o 1390 hyd 1397, ac yn 1399 aeth gyda Thomas Arundel, Archesgob Caergaint yng ngosgordd Bolingbroke ar ymdaith ei fyddin o Fryste i Gaer. Byth ar ôl hynny bu'n elyniaethus tuag at Risiart II. Cafodd ei wobrwyo gyda sawl bywoliaeth yng Nghymru a'r Gororau gan Bolingbroke am ei ran yng nghwymp Rhisiart II, a oedd yn cynnwys cael prebend yn Eglwys Gadeiriol Bangor.
Ond collodd ffafr y brenin newydd ac ymadawodd am Rufain yn Chwefror 1402. Cyfarfu â'r pabau Boniffas IX ac Innocent VII, a chynigwyd esgobaethau Henffordd a Thyddewi iddo, ond ni lwyddodd i gael caniatad Harri IV o Loegr (Bolingbroke).
Roedd hyn i gyd yng nghyfnod gwrthryfel Owain Glyndŵr. Gwyddys fod Adda mewn cysylltiad â rhai o gynghreiriaid Glyn Dŵr ond mae ei ran yn y gwrthryfel yn ansicr. Ymddengys fodd bynnag fod ei gydymdeimlad amlwg ag achos Glyn Dŵr yn rheswm arall dros aros yn Rhufain. Torrodd trefysgoedd allan yn y ddinas ac yn 1406 gadawodd am Bruges yn Fflandrys. Gweithiodd fel twrnai yno ac yn Ffrainc.
Yn 1408 dychwelodd Adda i Gymru, gan lanio yn Abermaw, ac aeth yn gaplan yn Y Trallwng dan nawdd Edward Charlton, Arglwydd Powys, gŵr y bu gan ei wraig gysylltiad ag Arglwyddiaeth Brynbuga.
Derbyniodd Adda bardwn brenhinol yn 1411. Ond yn 1414 bu farw Thomas Arundel, Archesgob Caergaint, a chollodd Adda ffynhonnell nawd bwysig. Treuliodd weddill ei oes yn gymharol dlawd a bu farw yn 1430. Cafodd ei gladdu yn eglwys Brynbuga, lle gellir gweld ei feddargraff ar ffurf cywydd o hyd. Yn ei Ewyllys gadawodd grantiau i Esgobaeth Llandaf a sawl unigolyn o Gymro, yn cynnwys ei berthynas Edward ab Adam, sef ei gopi personol o Polychronicon Ranulf Higdon.
Ei gronicl
[golygu | golygu cod]Gyda'r Polychronicon gadawodd lawysgrif ei gronicl ei hun. Mae'n llawn manylion am ddigwyddiadau cyfoes yng Nghymru, Lloegr ac Ewrop o 1377 hyd 1421, ac yn ddrych i fedddwl a bywyd Adda ei hun hefyd. Cyfarfu â sawl brenin a phab a bu'n byw yn rhai o ddinasoedd mawr y cyfnod. Roedd yn gyfarwydd â Chymru a'i gwleidyddiaeth hefyd, ac mae ei gronicl yn ffynhonnell amhrisiadwy am ddigwyddiadau cyfnod gwrthryfel Glyn Dŵr.
Ei gofeb yn Eglwys Brynbuga
[golygu | golygu cod]Ceir plac efydd yn Eglwys y Santes Fair, Brynbuga (eglwys a sefydlwyd yn y 12g gan Richard de Clare) a oedd yn gryn ddirgelwch i haneswyr Cymru am flynyddoedd, ond a drawsysgrifiwyd fel a ganlyn gan John Morris Jones:[1]
Nôl clod i veddrod iar vein,
advocad llawnhad Llundain
A barnwr byd breint arab-
ty nef a vo i ti, ha vab!
Selyf swynnwyr, synna, sy,
Adam Wysk, yna yn kwsky,
Dec kwmmwd doctor kymen
llyna le yn llawn o lên!
Mae'r gerdd goffa, neu farwnad yma ar ffurf cywydd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]- Adda o Frunbyga: Chronicon Adæ de Usk, gol. Edward Maunde Thompson (Llundain, 1876)
Cefndir
[golygu | golygu cod]- R.R. Davies, The Revolt of Owain Glyndŵr (Rhydychen, 1995)
- Glanmor Williams, The Welsh Church from Conquest to Reformation (Caerdydd, 1962)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Adam Usk's Epitaph; Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 5 Awst 2019.