Thomas Becket

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Becket
De Grey Hours f.28.v St. Thomas of Canterbury.png
Darlun o lofruddiaeth Thomas Becket yn Llyfr Oriau De Grey (tua 1390), Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ganwyd c. 21 Rhagfyr 1119 Edit this on Wikidata
Cheapside Edit this on Wikidata
Bu farw 29 Rhagfyr 1170 Edit this on Wikidata (51 oed)
Eglwys Gadeiriol Caergaint Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaeth diwinydd, clerig, barnwr, offeiriad Catholig Edit this on Wikidata
Swydd Archesgob Caergaint, esgob Catholig, archesgob Catholig Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl 29 Rhagfyr Edit this on Wikidata
Tad Gilbert Becket Edit this on Wikidata

Archesgob Caergaint o 1162 hyd ei farwolaeth oedd Thomas Becket, hefyd Thomas à Becket (tua 21 Rhagfyr 111829 Rhagfyr 1170).

Ganed ef yn Llundain, yn fab i farnachwr Normanaidd. Aeth i ddinas Paris i astudio diwinyddiaeth, Yn 1155, daeth yn ganghellor i Harri II, brenin Lloegr, a daeth yn gyfaill agos i'r brenin. Yn 1162, daeth yn Archesgob Caergaint. Yn 1164, ceisiodd Harri ddod a'r eglwys dan ei awdurdod, a gwrthwynebwyd ef gan Becket. Bu raid i'r archesgob ffoi i abaty Pontigny yn Ffrainc. Yn 1170, gorfodd y Pab Alecsander III y brenin Harri i ganiatau i Becket ddychwelyd i Loegr.

Tua diwedd y flwyddyn honno, yn dilyn sylwadau gan y brenin, a ofynnodd pwy fyddai'n cael gwared o Becket, llofruddiwyd yr archesgob gan bedwar marchog Normanaidd yn Eglwys Gadeiriol Caergaint. Ystyrir ef fel merthyr, ac yn 1173 cyhoedd y Pab ef yn sant. Daeth ei fedd yn yr eglwys gadeiriol yn gyrchfan i bererinion.

Daeth Becket i wrthdrawiad ag Owain Gwynedd. Roedd Owain wedi priodi Cristin ferch Gronw, oedd yn gyfneither iddo; rhywbeth a waherddid gan ddeddfau'r eglwys. Pwysodd Becket ar Owain i ysgau Cristin, a phan wrthododd Owain, esgymunwyd ef.

Ymhlith y mwyaf adnabyddus o'r gweithiau llenyddol sy'n ymdrin a Thomas Becket, mae drama fydryddol T. S. Eliot, Murder in the Cathedral, a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Thomas Parry fel Lladd wrth yr Allor.