Neidio i'r cynnwys

Ynysgynwraidd

Oddi ar Wicipedia
Ynysgynwraidd
Mathpentrefan, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth678 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.877°N 2.788°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001081 Edit this on Wikidata
Cod OSSO457201 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/au y DUCatherine Fookes (Llafur)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Pentref a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Ynysgynwraidd[1] (Saesneg: Skenfrith).[2] Saif y pentref rhwng y Fenni a'r Rhosan ar Wy, bron yn union ar y ffin â Loegr, ac ar lan orllewinol Afon Mynwy, 5 milltir i'r gogledd o Drefynwy. Mae castell yno, sy'n ddi-dâl i ymwelwyr, ac mae hen eglwys a thafarn hefyd.

Y gymuned

[golygu | golygu cod]

Daeth Ynysgynwraidd yn gymuned ar ôl i gymunedau Sir Fynwy gael eu had-drefnu yn 2022.[3] Ynghyd â phentref Ynysgynwraidd ei hun, mae'r gymuned yn gynnwys pentrefi Bont, Cross Ash, Llanwytherin, Norton, a Walson.

Map Cymuned Ynysgynwraidd o fewn Sir Fynwy

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[5]

Castell

[golygu | golygu cod]

Yng nghanol y pentref ac ar lan Afon Mynwy, saif Castell Ynysgynwraidd, a godwyd ychydig wedi 1066. Un o Dri Chastell Gwent (ynghyd â Chastell y Grysmwnt a’r Castell Gwyn)yw'r castell hwn. Mae'n edrych yn debyg i Gastell Dolbadarn: un tŵr crwn, soled o garreg.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 31 Hydref 2021
  3. Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021, deddfwriaeth.gov.uk, 2 Tachwedd 2021; adalwyd 13 Ionawr 2025
  4. Gwefan Senedd Cymru
  5. Gwefan Senedd y DU

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato