Afon Mynwy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Mynwy
BridgeMonnow.JPG
Math Afon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Lloegr Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.8057°N 2.7137°W, 52.0244°N 3.0948°W, 51.8057°N 2.71°W Edit this on Wikidata
Aber Afon Gwy Edit this on Wikidata
Llednentydd Afon Honddu, Afon Dore Edit this on Wikidata
Hyd 42 cilometr Edit this on Wikidata

Afon yn ne-ddwyrain Cymru yw Afon Mynwy (Saesneg: River Monnow), sy'n tarddu yn y Mers ac yn ymuno ag Afon Gwy. Ei hyd yw tua 26 milltir.

Mae'r afon yn tarddu dros 1500 troedfedd i fyny ym mryniau gorllewin Swydd Henffordd, tua 4 milltir i'r de o'r Gelli Gandryll. Am ran gyntaf ei daith mae'n llifo i lawr i gyfeiriad y de yn agos i'r ffin ac yn croesi i Gymru ger Y Pandy, Sir Fynwy. Yna mae'n troi i'r dwyrain am rai filltiroedd cyn llifo ar gwrs de-ddwyreiniol am weddill ei chwrs, gan aros yn agos iawn i'r ffin gyda bryniau'r Mynydd Du i'r gorllewin. Mae'r pentrefi ger ei glannau yn cynnwys Yr Hencastell, Y Grysmwnt, Ynysgynwraidd a Llanoronwy. Ar ôl llifo trwy Drefynwy, lle mae pont hynafol enwog yn ei chroesi, mae'n ymuno ag Afon Gwy.

Rhwng y Pandy ac Ynysgynwraidd mae'r pysgota am frithyll yn arbennig o dda.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]