Pont Mynwy
| Math | pont bwa dec, pont droed, pont gaerog, pont |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Trefynwy |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 14 metr |
| Cyfesurynnau | 51.809°N 2.71996°W, 51.808973°N 2.720045°W |
| Hyd | 34.8 metr |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
| Deunydd | tywodfaen |
| Dynodwr Cadw | MM008 |
Pont garreg gaerog sy'n croesi Afon Mynwy yn Nhrefynwy, Sir Fynwy, Cymru, yw Pont Mynwy (hefyd Pont Trefynwy). Saif tua 1,600 troedfedd (500 m) tua'r gorllewin o gydlifiad Afon Mynwy ag Afon Gwy. Dyma’r unig bont afon sydd wedi goroesi ym Mhrydain gyda’i thŵr porth yn sefyll ar y bont.
Mae'r bont yn dyddio o 1272. Fe'i hadeiladwyd o dywodfaen coch; mae ganddi dri bwa. Mae'r tŵr porth gyda phorthcwlis yn dyddio o 1297 i 1315. Cafodd ei lledu ar y ddwy ochr yn gynnar yn y 19g, pan dorrwyd bwâu cerddwyr trwy dyrau y porthdy. Cafodd y bont ei hatgyfnerthu yn 1839 ac mae'n rhan o Muriau Tref Trefynwy.[1]
Credir i bont bren sefyll yma o'r blaen, ac yn 1988 cafwyd tystiolaeth archaeolegol o hynny.[2] Dengys dyddio radiocarbon i'r coed a ddefnyddiwyd yn dod o gyfnod rhwng 1123 a 1169.
Oriel
[golygu | golygu cod]- Ysgythriad o'r bont gan Thomas Hearne, 1780au
- Y bont o'r gorllewin
- Yr olygfa i gyfeiriad y dwyrain - a'r dref
- Ffair anifeiliaid, 2008
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Monnow Bridge and Gate", Coflein; adalwyd 14 Chwefror 2025
- ↑ M.L.J., Rowlands, Monnow Bridge and Gate (Alan Sutton Publishing, 1994)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Monnow Bridge and Gateway", British Listed Buildings
