Castell y Grysmwnt
Gwedd
| Math | castell |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Y Grysmwnt |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 109.2 metr, 109.7 metr |
| Cyfesurynnau | 51.9154°N 2.866°W |
| Rheolir gan | Cadw |
![]() | |
| Perchnogaeth | Cadw |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | MM007 |
Castell Normanaidd ydy Castell y Grysmwnt (Saesneg: Grosmont Castle) a saif ger pentref y Grysmwnt yng ngogledd eithaf y sir, 10 milltir i'r gogledd o Drefynwy, o fewn tafliad carreg â'r ffin rhwng Sir Fynwy a Swydd Henffordd yn Lloegr.
Un o Dri Chastell Gwent (ynghyd â’r Castell Gwyn a Chastell Ynysgynwraidd) a sylfaenwyd gan y Normaniaid tua dechrau’r 12g yw'r castell hwn. Yn 1201 fe'i roddwyd yn rhodd i'r marchog Normanaidd Hubert de Burgh (y sonir amdano yn y ddrama-glasur Siwan) gan ei gryfhau gryn dipyn rhwng 1224 a 1226.

