Brwydr y Grysmwnt
| Enghraifft o: | brwydr |
|---|---|
| Dyddiad | 11 Mawrth 1405 |
| Lleoliad | Castell y Grysmwnt |
![]() | |
| Gwladwriaeth | Tywysogaeth Cymru |
| Dynodwyr | |
Brwydr rhwng un o gapteiniaid Owain Glyn Dŵr, sef Rhys Gethin, a milwyr Harri V, brenin Lloegr oedd Brwydr y Grysmwnt, a ymladdwyd ar 11 Mawrth 1405. Saif Castell y Grysmwnt ger pentref o'r un enw (Cyfeirnod OS: SO4024) yng ngogledd eithaf Sir Fynwy, 10 milltir i'r gogledd o Drefynwy, o fewn tafliad carreg â'r ffin rhwng Sir Fynwy a Swydd Henffordd yn Lloegr.
Ceir cyfeiriad at y frwydr yn yr Annales Henrici Quarti gan Thomas Walsingham, mae mynach o Sant Albans a flodeuodd rhwng 1360-1420), lle mae'n datgan: "yn y flwyddyn honno (1405), ar Ddydd Mercher y Lludw (4ydd Mawrth), y gwnaed lladdfa fawr o’r Cymry".[1] Mae llythyr Henry at ei dad, Henry IV, fodd bynnag yn nodi 11 Mawrth.[2]
Cododd Rhys Gethin fyddin o tua 10,000 o filwyr a llwyddodd i losgi'r dref - y tryddydd mwyaf yn ne Cymru ar y pryd.
Danfonodd brenin Lloegr, sef Harri V fyddin gan gynnwys John Talbot, John Talbot, Iarll 1af Amwythig, Syr William Newport a Syr John Greynder a fartsiodd o Henffordd gan drechu'r Cymry. Lladdwyd rhwng 800 a 1,000 ohonyn nhw. Cymerwyd Owain ap Gruffydd ap Rhisiart, Ysgrifennydd Owain Glyn Dŵr a'i frawd-yng-nghyfraith John Hanmer yn garcharorion ac aethpwyd a nhw i Dŵr Llundain.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Brwydr Mynydd Camstwn a gynhaliwyd 10 Mehefin 1404
- Castell y Grysmwnt
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Chronica Monasterii Sancti Albani, gol. H. T. Riley (Llundain, 1866), 399.
- ↑ meysyddbrwydro.cymru;[dolen farw] adalwyd 10 Mehefin 2025.
