Brwydr Mynydd Carn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Brwydrau'r Normaniaid a'r Saeson yng Nghymru


Brwydr bwysig a ymladdwyd yn y flwyddyn 1081. Mae ei hunion leoliad yn ansicr, er bod gogledd Sir Benfro yn ymddangos yn dra thebygol, efallai yng nghyffiniau Carn Ingli yn y Preseli.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi marw Gruffudd ap Llywelyn yn 1063 bu Gwynedd yn nwylo brenhinoedd eraill am ddeunaw mlynedd, sef Bleddyn ap Cynfyn o Bowys hyd 1075, a Thrahaearn ap Caradog o Arwystli hyd 1081. O 1075 ymlaen brwydrodd Gruffudd ap Cynan i geisio adennill ei deyrnas. Yn 1081 ffurfiodd gynghrair â Rhys ap Tewdwr o Ddeheubarth a llwyddodd i drechu Trahaearn a Charadog ap Gruffudd rheolwr Gwynllŵg) ym Mrwydr Mynydd Carn.[1] Trwy hyn, sefydlwyd y ddwy linach a fu'n teyrnasu drwy Wynedd a Deheubarth.[2]

Yn ôl Brut y Tywysogion (fersiwn Peniarth 20),

Blwyddyn wedy hyny y bu ymlad mynydd karn ac yno y llas trahayarn ap karadawc a charadawc a gruffudd a meilyr meibyon riwallawn... ac yn ol ynteu y doeth gruffudd wyr y yago ac ysgottyeid yn borth iddaw ac y llas gwrgeneu vab seissyll ygan veibyon rys seis.[3]

Yn Hanes Gruffudd ap Cynan, dywedir am Fynydd Carn,

Sef yw hynny mynydd y garnedd; canys yno y mae dirfawr garnedd o fein[i], o dan yr hon y claddwyd rhyssw[y]r yng nghynoesedd gynt.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. D. Simon Evans (gol.), Historia Gruffud vab Kenan (Caerdydd, 1977).
  2. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008
  3. Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogion (Peniarth MS. 20) (Caerdydd, 1941).
  4. D. Simon Evans (gol.), Historia Gruffud vab Kenan (Caerdydd, 1977). Orgraff ddiweddar.