Brwydr Bryn Derwin
Jump to navigation
Jump to search
Math |
brwydr ![]() |
---|---|
| |
Cysylltir gyda |
Llywelyn ap Gruffudd ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
Eifionydd ![]() |
Sir |
Cymru ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.99°N 4.29°W ![]() |
![]() | |
Cyfnod |
1 Mehefin 1255 ![]() |
Brwydr rhwng Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frawd Owain Goch tua chanol mis Mehefin 1255 oedd Brwydr Bryn Derwin. Roedd anghytuno wedi bod pwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd ap Llywelyn Fawr. Roedd rhai yn cefnogi Owain ac eraill yn cefnogi Llywelyn.[1]
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae Bryn Dewin yn ymyl Bwlch Dau Fynydd ger Clynnog Fawr yn Arfon, nid nepell o'r ffin rhwng y cantref hwnnw ac Eifionydd. Ar ôl brwydr fer ond caled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd gyda rheolaeth lwyr dros Wynedd Uwch Conwy.[1]
Cyfeirir at y frwydr mewn cerdd i Lywelyn gan y bardd Llygad Gŵr:
- Gwelai wawr ar wŷr lliosydd,
- Fal gŵr yn gwrthladd cywilydd,
- A welai Lywelyn, lewenydd - dragon,
- Yng nghymysg Arfon ac Eifionydd.
- Nid oedd hawdd, llew aerflawdd lluydd,
- Ei dreisiaw ger drws Deufynydd.[1]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- J. Beverly Smith, Llywelyn ap Gruffudd: Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986). Pennod II: 'Bryn Derwin'. Ymdriniaeth fanwl ar gefndir y frwydr a'i chanlyniadau.