Brwydr Bryn Glas

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Brwydrau'r Normaniaid a'r Saeson yng Nghymru


Roedd Brwydr Bryn Glas (SO 253682), (hefyd Brwydr Pilleth mewn cofnodion Saesneg, neu weithiau Frwydr Pyllalai[1]) yn frwydr fawr yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Owain Glyn Dŵr a welodd fuddugoliaeth bwysig i'r Cymry dros y Saeson dan Syr Edmund Mortimer. Cafodd ei ymladd ar 22 Mehefin 1402, ger pentref Pilalau, ar odre gogleddol Fforest Clud, ger Llanandras a'r ffin rhwng Swydd Henffordd a Powys.

Y cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd gwrthryfel Owain Glyn Dŵr wedi dechrau yn 1400. Roedd Harri IV o Loegr wedi penodi Syr Edmund Mortimer yn brif swyddog iddo yn y Mers. Ewythr oedd yr Edmund Mortimer hwnnw i Edmund de Mortimer, 5ed Iarll y Mers a oedd yn mwynhau gwell hawl i goron Lloegr na'r brenin ei hun, yn ddamcaniaethol, ond hyd hynny cefnogai Harri. Ffactor arall yn ei deyrngarwch oedd y ffaith fod ganddo feddiannau helaeth yng Nghymru ac yn y Mers a bu iddo ddioddef eisoes o weithgareddau Glyn Dŵr; felly nid oedd yn awyddus i weld y gwrthryfel yn parhau.

Y frwydr[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceisiai byddin 8000 milwr Mortimer denu byddin sylweddol lai Owain i ymladd. Ond roedd Owain yn ormod o lwynog. Defnyddiodd ei ysbiwyr a'i gefnogwyr lleol i drefnu ei gynlluniau. Yn ôl pob tebyg roedd wedi llwyddo i ddenu rhagor o Gymry i'w fyddin wrth oedi felly yn ogystal. Y canlyniad fu fod Mortimer, fe ymddengys, wedi meddwl fod ganddo dasg hawdd o'i flaen ac wedi gweithredu'n anghall.

Roedd rhan o fyddin Glyn Dŵr, tua 3000 o wŷr efallai, wedi meddiannu llethr allt uwchben y cwm y byddai'n rhaid i fyddin Mortimer deithio drwyddo. Yn ôl traddodiad roeddent dan gapteiniaeth Rhys Gethin, un o swyddogion mwyaf talentog a phrofiadol Glyn Dŵr. Nesaodd byddin Mortimer mewn rhengoedd trefnus i fyny'r llethr. Pan ymosodasant cawsant eu criblo gan saethau saethwyr Glyn Dŵr â'u bwâu hir nerthol. Gan eu bod yn saethu i lawr ar filwyr Mortimer roedd yr ergydion cymaint mwy grymus. Syrthiodd nifer o'r Saeson cyn dod yn agos i rengoedd y Cymry a medru ymladd llaw wrth law. Dyna pan chwaraeodd Owain ei gerdyn trwmp: allan o'r coed ar ochr dde'r Saeson, rhuthrodd hanner arall ei fyddin yn ddirybudd ar filwyr Mortimer. Torrodd byddin Mortimer dan yr ergyd. Roedd yna Gymry lleol o swydd Henffordd yn ei rengoedd hefyd, yn erbyn eu hewyllys, a phan welsant sut oedd y trai yn troi aethant drosodd i Glyn Dŵr (mae rhai haneswyr yn meddwl fod hynny wedi'i gytuno o flaen llaw) ac ymosod ar y milwyr Seisnig. Trechwyd byddin Mortimer yn llwyr a chollodd nifer o filwyr cyffredin ac efallai cannoedd o farchogion ar eu meirch trymion.

Yn ôl croniclwyr cyfoes yn Lloegr cafodd cyrff y meirw eu difetha'n anweddus gan y gwragedd a ddilynai byddin Glyn Dŵr (fel pob byddin arall tan yn ddiweddar), efallai er dial am y treisio a fu gan filwyr Harri'r flwyddyn cyn hynny. Daliwyd Mortimer ei hun. Yn nes ymlaen byddai'n priodi Catrin, merch Owain, ac yn sefyll gyda'r arweinydd Cymreig yn erbyn brenin Lloegr.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • D. Helen Allday, Insurrection in Wales (Lavenham, 1981)
  • R.R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Rhydychen, 1995)
  • Rhywbeth Bob Dydd gan Hafina Clwyd.