Brwydr Aberconwy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad1194 Edit this on Wikidata
LleoliadCymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Baner Gwynedd
Brwydrau'r Normaniaid a'r Saeson yng Nghymru


Ymladdwyd Brwydr Aberconwy yn y flwyddyn 1194 ger Conwy (Aberconwy) rhwng Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr yn ddiweddarach) a'i ewythr Dafydd ab Owain Gwynedd. Mae'n bosibl y bu ewythr arall, sef Rhodri ab Owain Gwynedd, yn bresennol ar ochr Dafydd hefyd.[1]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Digwyddodd y frwydr ar lan aber Afon Conwy ger safle presennol tref Conwy. Ymladdodd Llywelyn gyda chymorth ei gefndyr Maredudd a Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd. Cafodd fuddugoliaeth fawr ar fyddin Dafydd a osododd y sylfeini i'w deyrnasiad hir fel Tywysog Gwynedd a Chymru.[1]

Cyfeirir at y fuddugoliaeth bwysig hon mewn cerddi gan y beirdd Llywarch ap Llywelyn (Prydydd y Moch) a Cynddelw Brydydd Mawr. Dyma ran o ddisgrifiad Cynddelw:

Ni bu lledrad cad cadr Aber—Conwy,
Cynnechrau fy udd nêr;
Cynnygn fy llyw oedd llawer,
Cwyddynt yng ngif seithrif sêr.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 J. E. Lloyd. A History of Wales (Llundain, 1939), tt. 588-9.
  2. Nerys Ann Jones ac Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr, cyfrol II (Caerdydd, 1995), cerdd 13, llinellau 9-13. Aralleiriad: 'Ni bu byddin un gwych Aberconwy yn llechwraidd / [Ar] ddechreuad [gyrfa] fy arglwydd-bennaeth; / Niferus oedd gelynion fy arweinydd / [Ond] syrthiai saith gwaith rhif y sêr yn farw yn [yr] ymrafael.'