Arglwyddi Afan

Oddi ar Wicipedia
Gweler hefyd Afan (gwahaniaethu).

Roedd Arglwyddi Afan yn rheoli dros gwmwd ac Arglwyddiaeth Afan, sef ardal a oedd wedi'i leoli rhwng afonydd Afan a Nedd ym Morgannwg rhwng tua 1100 ac ail hanner y 14g.

Yn 1091 gymerodd y Normaniaid reolaeth dros hen deyrnas Gymreig Morgannwg, o dan arweiniaid Robert Fitz Hammo (neu Fitzhamon), arglwydd Caerloyw. Brenin olaf hen deyrnas Morgannwg oedd Iestyn ap Gwrgant (a flodeuai rhwng 1081 ac 1100). Llwyddodd ei fab Caradog ab Iestyn i gadw rheolaeth dros ran o'r diriogaeth yng Nghwm Afan a gelwid ef a'i ddisgynyddion yn Arglwyddi Afan. Yn y 13g dechreuodd y teulu ddefnyddio'r cyfenw "D'Avene" i efelychu'r Normaniaid. Erbyn 1373 roedd y teulu wedi ildio tir Afan i Edward le Despencer, arglwydd Morgannwg.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]