Iestyn ap Gwrgant
Gwedd
| Iestyn ap Gwrgant | |
|---|---|
| Ganwyd | 1045 Teyrnas Glywysing |
| Bu farw | 1093 Rhiwbeina |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
| Blodeuodd | 1081 |
| Tad | Gwrgant ab Ithel |
| Mam | Nn ferch Cynfyn ap Gwerystan ap Gwaithfoed |
| Plant | Caradog ab Iestyn, Nest ferch Iestyn ap Gwrgan ab Ithel, Catrin ferch Iestyn ap Gwrgan, Madog ab Iestyn ap Gwrgan ab Ithel o Ruthion, Gruffudd ab Iestyn ap Gwrgan ab Ithel, Gwenllian ferch Iestyn ap Gwrgan ab Ithel, Rhydderch ab Iestyn, Rhys ab Estyn ap Gwrgan ab Ithel o Resolfen |
Iestyn ap Gwrgant (1045-1093) oedd brenin olaf Morgannwg. Roedd yn fab i Gwrgant o Forgannwg. Roedd yn un o ddisgynyddion Arglwyddi Afan.
Daeth Morgannwg o dan ei feddiant yn sgil marwolaeth Caradog ap Gruffudd ym Mrwydr Mynydd Carn yn 1081. Teyrnasodd am ddegawd neu ddau'n unig a chipwyd Morgannwg oddi wrtho gan Robert Fitz Hammo yn y 1090au pan syrthiodd Iestyn mewn brwydr yn erbyn y Normaniaid yn ardal Rhiwbeina (rhan o ddinas Caerdydd heddiw). Wedi'i farwolaeth daeth yr enw 'Iestyn' yn enw poblogaidd drwy Forgannwg a thu hwnt.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwyddoniadur Cymru. Gwasg Prifysgol Cymru. 2008.