Rhiwbeina
| Math | maestref, cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 11,469, 11,249, 11,369 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.5211°N 3.214°W |
| Cod SYG | W04000858 |
| Cod post | CF14 |
| AS/au y DU | Anna McMorrin (Llafur) |
![]() | |
Maestref a chymuned yng Nghaerdydd yw Rhiwbeina (
ynganiad ) neu Rhiwbina (Saesneg: Rhiwbina). Mae'r cofnod cyntaf o'r enw yn nodi 'Rhiwbrien', a mae'n bosib ei fod yn tarddu o Sant Beuno. Mae'n ardal ffynianus yng ngogledd y ddinas a bu'n bentref ar wahân ar un adeg. Ar ddechrau'r 2010au roedd yma 11,249 o breswylwyr ac roedd arwynebedd y faestref yn 642 hectar. Ceir tir agored i'r gogledd o'r M4 o'r enw Coed y Wenallt, lle ceir golygfa o'r ddinas. I'r de o'r draffordd ceir mwnt canoloesol o'r enw Twmpath.[1]
Rhiwbina yw'r enw a glywir mewn hen recordiadau Cymraeg,[2] ond ar ôl i ynganiad wedi'i Seisnigeiddio (/ruˈbaɪnə/) ddod yn gyffredin, dechreuwyd defnyddio Rhiwbeina yn Gymraeg. Heddiw, mae Comisiynydd y Gymraeg yn rhestru Rhiwbeina fel y prif ffurf safonol, a Rhiwbina fel ffurf safonol amgen.[3]
Tua diwedd yr 11g, lladdwyd Iestyn ap Gwrgant, tywysog olaf Teyrnas Morgannwg, mewn brwydr yn erbyn y Normaniaid yn yr ardal. Cofir am y frwydr yn yr enw Rhyd Waedlyd, ar ffrwd fechan yn Rhiwbeina.
Y Gymraeg
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 nodwyd bod 1,433 (12.9%) o'r boblogaeth dros dair blwydd oed yn medru'r Gymraeg. Y ffigwr cyfatebol yng nghyfrifiad 2001 oedd 1,409 (12.8%).[4]
Cynhelir gwasanaethu Cymraeg yng nghapel Methodistaidd Bethel. Bu capel Beulah (yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig) yn gapel Cymraeg yn perthyn i'r Annibynwyr, ond wedi cyfnod o weithredu'n ddwyieithog, troes i'r Saesneg yn 1898.[5]
Bu Rhiwbeina yn gartref i nifer o unoligion amlwg yn y diwylliant Cymraeg, gan gynnwys W. J. Gruffydd, R. T. Jenkins, Iorwerth C. Peate, Kate Roberts, a Rachel Thomas.

Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; 2008. Tud. 119.
- ↑ Lleisiau coll Cymraeg Caerdydd
- ↑ Enwau Lleoedd Safonol Cymru
- ↑ Comisiynydd y Gymraeg: Cyfrifiad 2011: canlyniadau yn ôl Cymuned Archifwyd 2015-01-06 yn y Peiriant Wayback; gwelwyd 24 Ionawr 2015.
- ↑ Beulah United Reformed Church History, gwelwyd 1 Chwefror 2015.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
- Adamsdown
- Caerau
- Castell
- Cathays
- Cyncoed
- Y Ddraenen
- Yr Eglwys Newydd
- Gabalfa
- Glan'rafon
- Grangetown
- Hen Laneirwg
- Llandaf
- Llanedern
- Llanisien
- Llanrhymni
- Llys-faen
- Y Mynydd Bychan
- Pen-twyn
- Pen-tyrch
- Pen-y-lan
- Pontcanna
- Pontprennau
- Radur a Threforgan
- Y Rhath
- Rhiwbeina
- Sain Ffagan
- Y Sblot
- Tongwynlais
- Tre-biwt
- Tredelerch
- Treganna
- Trelái
- Tremorfa
- Trowbridge
- Y Tyllgoed
- Ystum Taf
