Trahaearn ap Caradog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Trahaearn ap Caradog
Ganwyd 1030 Edit this on Wikidata
Bu farw 1081 Edit this on Wikidata (51 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth teyrn Edit this on Wikidata
Plant Llywarch ap Trahern Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Trahaearn.

Roedd Trahaearn ap Caradog (bu farw 1081) yn dywysog Gwynedd o 1075 hyd 1081. Arglwydd Arwystli, ar y ffin rhwng Gwynedd a Powys, oedd Trahaearn a'r cantref hwnnw oedd ei gadarnle. Ymledodd ei awdurdod yn raddol dros rannau mawr o ogledd Cymru ac roedd ganddo uchelgeisiau yn y de yn ogystal.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar farwolaeth Bleddyn ap Cynfyn yn 1075, mae'n ymddangos nad oedd yr un o'i feibion yn ddigon hen i hawlio'r deyrnas, a chipiodd cefnder Bleddyn, Trahaearn ap Caradog, y goron. Yr un flwyddyn glaniodd Gruffudd ap Cynan ar Ynys Môn gyda byddin o Iwerddon, a chyda chymorth y barwn Normanaidd Robert o Ruddlan gorchfygodd Drahaearn ac enillodd feddiant ar Wynedd. Fodd bynnag bu trafferthion rhwng milwyr Gwyddelig Gruffudd a'r Cymry lleol yn Llŷn, a rhoddodd hyn gyfle i Drahaearn wrth-ymosod, gan orchfygu Gruffudd ym mrwydr Bron yr Erw yn yr un flwyddyn a'i orfodi i ffoi i Iwerddon.

Teyrnasodd Trahaearn ar Wynedd tan 1081, pan ddychwelodd Gruffudd ap Cynan a gwneud cynghrair gyda Rhys ap Tewdwr tywysog Deheubarth, oedd yn ddiweddar wedi ei yrru allan o'i deyrnas gan Caradog ap Gruffudd o Forgannwg. Gwnaeth Trahaearn gynghrair â Charadog ap Gruffydd, ond ym Mrwydr Mynydd Carn, i'r gogledd o Dyddewi, yr un flwyddyn lladdwyd Trahaearn a Charadog. Yn ôl Hanes Gruffudd ap Cynan, trawyd Trahaearn yn ei fol a syrthiodd i'r llawr, 'a Gwcharci Wyddel a wnaeth facwn ohonaw fal o hwch'. Enillodd Gruffudd ap Cynan orsedd Gwynedd unwaith yn rhagor a dychwelodd Rhys ap Tewdwr i'w safle fel tywysog Deheubarth.

Disgynyddion[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Gwladus, ferch Llywarch ap Trahaearn, Owain Gwynedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Rhydychen, 1991). ISBN 0-19-820198-2
  • D. Simon Evans (gol.), Historia Gruffudd vab Kenan (Caerdydd, 1977). (Orgraff ddiweddar sydd yn y dyfyniad uchod, t. 15).
  • Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogion: Peniarth MS. 20 version (Caerdydd, 1952)
O'i flaen :
Bleddyn ap Cynfyn
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Gruffydd ap Cynan