Y Castell Gwyn
| Math | castell |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Llandeilo Gresynni |
| Sir | Sir Fynwy |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 160.1 metr |
| Cyfesurynnau | 51.8459°N 2.90206°W |
| Rheolir gan | Cadw |
![]() | |
| Perchnogaeth | Cadw |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
| Dynodwr Cadw | MM006 |
Castell Normanaidd wedi'i ddadfeilio yw Y Castell Gwyn a adnabyddir hefyd dan yr enw Castell Llandeilo, ac a leolir ger pentref Llandeilo Gresynni, Sir Fynwy.
Un o Dri Chastell Gwent (ynghyd â Chastell y Grysmwnt a Chastell Ynysgynwraidd) a sylfaenwyd gan y Normaniaid tua dechrau’r 12g yw'r castell hwn. Codwyd y castell er mwyn amddiffyn eu ffordd i mewn i dde Cymru - o'u pencadlys yn Henffordd - yn eu hymdrech i oresgyn Cymru. Mae'n fwy na phosib mai William fitz Osbern, iarll Henffordd a'i comisiynodd. Ceir dau gastell arall gerllaw, sy'n perthyn i'r un cyfnod: Castell y Grysmwnt a Chastell Ynysgynwraidd. Atgyfnerthwyd y cestyll hyn yn 1135, yn dilyn ymosodiadau gan y Cymry brodorol, a chrewyd Arglwyddiaeth y Tri Chastell.
Yn 1201 rhoddodd John, brenin Lloegr y castell i Hubert de Burgh. Newidiodd ddwylo yn ystod y degawdau dilynol, ac atgyfnerthwyd y castell yn y cyfnod hwn. Galwyd y castell gan yr hanesydd Paul Remfry yn esiampl wych o beirianneg milwrol. Yn 1267 trosglwyddwyd y castell i Edmund, iarll Lancaster a bu yn nwylo'r iarllaeth hyd at 1825.[1]
Erbyn y 16g roedd yn dechrau dadfeilio. Aeth i ofal Cadw ar 19 Tachwedd 1953 (cyfeirnod 2079).

Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Y Castell Gwyn", Cadw ; adalwyd 20 Hydref 2025
