Castell Gwyn, Sir Fynwy

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Castell Gwyn)
Y Castell Gwyn
Mathcastell Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1130 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlandeilo Gresynni Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr160.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8459°N 2.90206°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwMM006 Edit this on Wikidata

Castell Normanaidd wedi'i ddadfeilio yw Castell Gwyn a adnabyddir hefyd dan yr enw Castell Llandeilo, ac a leolir ger pentref Llandeilo Gresynni, Sir Fynwy.

Codwyd y castell hwn gan y Normaniaid er mwyn amddiffyn eu ffordd i mewn i dde Cymru - o'u pencadlys yn Henffordd - yn eu hymdrech i oresgyn Cymru. Mae'n fwy na phosib mai William fitz Osbern, iarll Henffordd a'i comisiynodd. Ceir dau gastell arall gerllaw, sy'n perthyn i'r un cyfnod: Castell y Grysmwnt a Chastell Ynysgynwraidd. Atgyfnerthwyd y cestyll hyn yn 1135, yn dilyn ymosodiadau gan y Cymry brodorol, a chrewyd Arglwyddiaeth y Tri Chastell.

Yn 1201 rhoddodd John, brenin Lloegr y castell i Hubert de Burgh. Newidiodd ddwylo yn ystod y degawdau dilynol, ac atgyfnerthwyd y castell yn y cyfnod hwn. Galwyd y castell gan yr hanesydd Paul Remfry yn esiampl wych o beirianneg milwrol. Yn 1267 trosglwyddwyd y castell i Edmund, iarll Lancaster a bu yn nwylo'r iarllaeth hyd at 1825.[1]

Erbyn y 16g roedd yn dechrau dadfeilio. Aeth i ofal Cadw ar 19 Tachwedd 1953 (cyfeirnod 2079).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. cadw.gov.wales; Archifwyd 2018-07-15 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 18 Awst 2018.