Llanfihangel Troddi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°47′21″N 2°44′11″W / 51.78905°N 2.73646°W / 51.78905; -2.73646

Llanfihangel Troddi
Llanfihangel Troddi is located in Sir Fynwy
Llanfihangel Troddi

 Llanfihangel Troddi yn: Sir Fynwy
Cyfeirnod grid yr AO SO493103
Sir Sir Fynwy
Sir seremonïol Gwent
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost TREFYNWY
Rhanbarth cod post NP25
Cod deialu 01600
Heddlu Gwent
Tân De Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Mynwy
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Fynwy

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn Sir Fynwy yw Llanfihangel Troddi (Saesneg: Mitchel Troy); (SO4910). Saif ger afon Troddi, dair milltir i'r de-orllewin o Drefynwy, heb fod ymhell o'r briffordd A40.

Yr olygfa i'r gogledd-orllewin,
tuag at "Troy House" a thu hwnt.

Daw'r enw o Afon Troddi, sy'n llifo trwy'r pentref; yn 1148 yr enw oedd 'Troi', talfyriad o 'Troddi'[1]. Cysegrwyd yr eglwys i Sant Mihangel; mae'n dyddio o'r 13g, 1208 yn ôl arysgrif ynddi. Roedd Adda o Frynbuga yn rheithor o 1382 hyd 1385. Ceir heneb yn dyddio'n ôl i sefydlu'r eglwys yma, sef Croes Llanfihangel Troddi.

Mae Troy House, tua milltir a hanner i'r gogledd-ddwyrain, yn dyddio o tua 1680, ar safle adeilad cynharach.

Mae'r gymuned a'r plwyf yn cynnwys pentref Cwmcarfan.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfihangel Troddi (pob oed) (1,253)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfihangel Troddi) (108)
  
8.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfihangel Troddi) (624)
  
49.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanfihangel Troddi) (143)
  
28.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 'Dictionary of Placenames' gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Gwasg Gomer
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013